Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar gyfer ‘Dydd y Farn 2019’ (Stadiwm Principality, Caerdydd) ar 27/04/2019 rhwng 13:00 a 20:00:
Y Dreigiau yn erbyn Y Scarlets – y gic gyntaf am 15:00
Gleision Caerdydd yn erbyn Y Gweilch – y gic gyntaf am 17:15
- Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth
- Stryd Tudor o’r gyffordd â Clare Road i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment)
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr)
- Heol Saunders o’r gyffordd â Heol Eglwys Fair
- Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat)
- Heol Penarth o’r gyffordd â Heol Saunders i’r fynedfa sy’n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
- Fodd bynnag, bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau’n gynnar yn y dydd (am 7am) oherwydd yr angen i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Y Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
Ychwanegiadau: Nodwch y bydd Carten100 yn digwydd hefyd yn yr ardal a reolir lle bydd ffyrdd yn cael eu cau. Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, a chaniateir mynediad yn unig ar gyfer parcio at ddiben y rygbi, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a chael mynediad i feysydd parcio preifat. Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa a Heol Neuadd y Ddinas.
Stagecoach
Bydd pob un o fysiau Stagecoach yn cychwyn ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion drwy’r dydd.
Bydd bysiau 25 a 132 yn cychwyn/gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion.
NI fydd bysiau 122 a 124 ar ôl 12:00 canol dydd yn gwasanaethu Heol y Gadeirlan ond byddant yn mynd ar hyd Heol y Gogledd wrth deithio’n ôl ac ymlaen i Heol y Brodyr Llwydion.
Newport Bus
Oherwydd gemau rygbi Dydd y Farn, bydd gwasanaeth rhif 30 yn dechrau ac yn gorffen yn Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GG) rhwng 13:00 a 20:00. Bydd dargyfeiriad nos Sadwrn arferol ar waith o 20:00 ymlaen.
New Adventure Travel
There will be diversions in place for the 89A/B, 320, T1C, T9, X1, X5 and X8 services.
Please click here to see maps for these diversion routes.
Bws Caerdydd:
Dydd Sadwrn 27 Ebrill o 13:00 tan 20:00
Rhif y llwybr | Man ymadael yng nghanol y ddinas |
1 a 2 ▲ | Heol Pont-yr-Aes (JH) |
6 (baycar) ● | Heol y Tollty |
8, 9 a 9C i Fae Caerdyddne u’r Pentref Chwaraeon | Heol Pont-yr-Aes (JH) |
8, 9 i Ysbyty’r Waun | Ffordd Churchill |
11 | Ffordd Churchill |
13 i Fae Caerdydd a’r Pentref Chwaraeon | Heol Pont-yr-Aes (JH) |
13 i’r Ddrôp | Stryd Tudor |
15 | Stryd Tudor |
17 ac 18 | Stryd Tudor |
21, 23 a 24 | Heol y Brodyr Llwydion |
25 | Stryd Tudor |
27 | Heol y Brodyr Llwydion |
28, 28A a 28B | Heol y Brodyr Llwydion |
30 | Heol y Brodyr Llwydion |
35 | Heol y Brodyr Llwydion |
44, 45, 45B | Ffordd Churchill |
49 a 50 | Ffordd Churchill |
51 | Ffordd Churchill |
52 | Ffordd Churchill |
53 | Heol y Brodyr Llwydion |
57 a 58 | Ffordd Churchill |
61 | Stryd Tudor |
63 a 63A | Stryd Tudor |
64 | Stryd Tudor |
66 | Stryd Tudor |
91* | Heol y Tollty (*runs during summer months only) |
92, 92B, 93, 94 a 94B | Ddydd Llun i ddydd Sadwrn, Heol y Tollty tan 19:00 neu Stryd Tudor ar ôl 19:00 nes y bydd y ffyrdd ar agor. Ar ddydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc bydd y bysiau’n cyrraedd ac yn ymadael o Stryd Tudor drwy gydol y dydd. |
95 i’r Barri | Stryd Tudor |
95 i Ysbyty’r Waun | Heol y Brodyr Llwydion |
95A, 95B | Stryd Tudor |
96 a 96A | Stryd Tudor |
X45 i gyfeiriad Llaneirwg | Ffordd Churchill |
X45 i gyfeiriad Parc Manwerth u Bae Caerdydd | Heol Pont-yr-Aes (JH) |
X59 | Plas Dumfries HT (drwy gydol y dydd) |
CCFC Shuttle Bus | Stryd Tudor |
▲ Ar ddiwrnod y digwyddiad, ni fydd gwasanaethau rhif 1 a 2 yn gwasanaethu’r tu cefn i’r Orsaf Reilffordd Ganolog (arosfannau JM a JN) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.
● Ar ddiwrnod y digwyddiad, bydd y gwasanaeth baycar yn gweithredu rhwng canol y ddinas (Heol y Tollty – JG) a Bae Caerdydd yn unig. Ni fydd yn gwasanaethu cylch canol y ddinas na’r tu cefn i’r Orsaf Reilffordd Ganolog (arhosfan JM) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.
Trafnidiaeth Cymru:
- Bydd gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 17:00
- Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, bydd system giwio ar waith yng ngorsaf Caerdydd Canolog ar ôl y gêm. Cliciwch yma i weld trosolwg o’r system hon
- Dylai cwsmeriaid sydd am deithio’n ôl i Gasnewydd, a chwsmeriaid sydd am ddal y bysiau a fydd yn gweithredu yn lle’r trenau i orsafoedd Bristol Parkway a Bristol Temple Meads, ddefnyddio’r ciw ar gyfer Casnewydd.
Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth a chael y manylion diweddaraf yn fyw am statws eich taith.