Problemau teithio

Bydd bysiau T4 a T14 TrawsCymru sy’n gwasanaethu Talgarth yn cael eu dargyfeirio rhwng Bronllys a Talgarth Road rhwng y dyddiadau canlynol:

  • 8 Ionawr 2019 a 15 Chwefror 2019

Y rheswm am hynny yw bod yr A479 yn cael ei chau er mwyn gwneud gwaith ar bibellau dŵr.

Yn ystod y dyddiadau hyn, bydd bysiau T4 a T14 TrawsCymru sy’n gwasanaethu Talgarth yn parhau i wneud hynny trwy Aberllynfi gan ddilyn dargyfeiriad ar y ffordd i mewn ac allan o Dalgarth ei hun.  Bydd hynny’n ychwanegu sawl munud at hyd y daith a bydd yn effeithio ar amseroedd teithiau. Bydd yn effeithio ar yr amseroedd y bydd y bysiau’n cyrraedd arosfannau eraill naill ai i’r gogledd i gyfeiriad Llanfair-ym-Muallt, i’r de i gyfeiriad Aberhonddu neu i’r dwyrain i gyfeiriad Henffordd.

Yn ôl