Problemau teithio

Bydd gorymdeithiau’n tarfu ar rai gwasanaethau ar hyd y ffyrdd canlynol ar 11/11/2018:

 

Gwybodaeth Cyngor

 

Caerdydd

Heol Goch, Pentyrch rhwng 14:50pm a 15:20pm o’r gyffordd â Heol y Pentre i’r gyffordd â Berthllwyn.

Penlline Road, Yr Eglwys Newydd rhwng 10:15am a 12:00pm o’r gyffordd â Merthyr Road i’r gylchfan ar y gyffordd â Kelston Road.

Heol Isaf, Radur rhwng 10:30am a 12:30pm o’r gyffordd â Windsor Road i’r gyffordd â Rectory Close, a King’s Road o’r gyffordd â Heol Isaf i’r gyffordd â Taff Terrace.

Lisvane Road rhwng 10:45am a 11:10am o’r gyffordd â Church Road i Glos Coed y Dafarn.

Tŷ’r Winch Road rhwng 11:30am a 12:30pm o Eglwys y Bedyddwyr Llaneirwg (wrth ymyl Mill Lane) i ben draw’r heol wrth ymyl cyffordd y Coach House â Heol Casnewydd.

 

 

Rhondda Cynon Taff

Bydd modd i gerddwyr a'r gwasanaethau brys gael mynediad i'r ffyrdd ar unrhyw adeg.

Ffyrdd a Gaiff eu Cau   Lleoliad Amser
CANON STREET Y stryd gyfan ABERDÂR 10:00 – 12:00
SGWÂR FICTORIA Y stryd gyfan ABERDÂR 10:00 – 12:00
HIGH STREET (Tua'r de yn unig) O'i chyffwrdd â Seymour Street i'w chyffwrdd â Canon Street ABERDÂR 10:00 – 12:00
CARDIFF STREET O'i chyffordd â Victoria Square i'w chyffordd â Cross Street ABERDÂR 10:00 – 12:00
CARDIFF STREET O safle'r Clwb Cyn-Filwyr TONYPANDY 10:00 – 12:30
GELLI ROAD O'i chyffordd ag Eleanor Street i'w chyffordd a Dunraven Street  TONYPANDY 10:00 – 12:30
DUNRAVEN STREET O'i chyffordd â Gelli Road i'w chyffordd â De Winton Street TONYPANDY 10:00 – 12:30
DE WINTON STREET Y stryd gyfan TONYPANDY 10:00 – 12:30
STRYD YR EGLWYS Y stryd gyfan TONYPANDY 10:00 – 12:30
CARDIFF ROAD O'i chyffordd â Dyffryn Road i'w chyffordd â Fairfield Lane Y DDRAENENWEN 10:30 – 11:30
FFORDD LINIARU'R PORTH O gylchfan Pont y Porth i ffordd gyswllt y Cymmer. Y PORTH 10:55 – 11:05
GELLIWASTAD ROAD Y stryd gyfan PONTYPRIDD 10:00 – 12:00
MORGAN STREET Y stryd gyfan PONTYPRIDD 10:00 – 12:00
BRIDGE STREET Y stryd gyfan PONTYPRIDD 10:00 – 12:00
GILFACH ROAD O fynediad Ysgol Gyfun Tonyrefail (gyferbyn â 47 Gilfach Road) i gylchfan Gilfach Road TONYREFAIL 10:15 – 10:45
GYNOR PLACE O'i chyffordd â Graig Road i'w chyffordd â'r ffordd heb enw sy'n arwain at Ynyshir Road YNYS-HIR
10:00 – 12:00
FFORDD HEB ENW RHWNG GYNOR PLACE AC YNYSHIR ROAD Y stryd gyfan YNYS-HIR
10:00 – 12:00
YNYSHIR ROAD O'i chyffordd â'r Ffordd Heb Enw rhwng Gynor Place ac Ynyshir Road a'i chyffordd a Station Road YNYS-HIR
10:00 – 12:00
STATION ROAD O'i chyffordd â Ynyshir Road i'w chyffordd â Church Terrace YNYS-HIR
10:00 – 12:00
HILLSIDE AVENUE  O'i chyffordd â Danygraig Terrace i'w chyffordd â'r Sgwâr LLANHARAN
10:00 – 12:00
HENSOL ROAD
STRYD Y GLYN
ROBERT STREET
O'i chyffordd â Mill Race i'w chyffordd a School Road MEISGYN 10:00 – 12:00
STRYD Y GLYN Y stryd gyfan YNYS-Y-BŴL 14:30 – 16:30
ROBERT STREET O'i chyffordd â Stryd y Glyn i'w chyffordd â Windsor Place YNYS-Y-BŴL 14:30 – 16:30
WINDSOR PLACE O'i chyffordd â Robert Street i'w chyffordd â Penygraig Terrace YNYS-Y-BŴL 14:30 – 16:30

 

Bydd rhannau o'r ffordd yn Seymor Streets a strydoedd cyfagos yn cael eu neilltuo er mwyn caniatâu mynediad yn unig: High Street (lôn tua'r de yn unig) o'i chyffordd â Chylchfan Gadlys i'w chyffordd â Seymour Street

 

Llwybrau eraill:

Aberdâr Llwybr arall
Cerbydau sy'n teithio o'r gogledd O Gylchfan Gadlys, dilynwch yr A4233 a'r A4059 (Ffordd Osgoi Aberdâr)
Cerbydau sy'n teithio o'r de O Gylchfan Tinney's, dilynwch Cardiff Street, Cross Street, Bute Street, Sgwâr Fictoria a High Street Nodwch Bydd Heddlu De Cymru yn rheoli traffig sydd wedi'i ddargyfeirio yn ôl yr angen.
Y DdraenenWen O'r de-ddwyrain i'r ffordd sydd wedi'i chau, dilynwch Fairfield Lane, Poplar Road a Dyffryn Road tua'r gogledd-orllewin. I gerbydau sy'n teithio'r ffordd arall, newidiwch drefn yr uchod.
Tonypandy O'r gogledd i'r ffordd sydd wedi'i chau, dilynwch Llwynypia Road, yr A4119, Cylchfan Tonypandy, yr A4058, Cylchfan Trealaw, Tylacelyn Road a Dunraven Street tua'r de. I gerbydau sy'n teithio'r ffordd arall, newidiwch drefn yr uchod.
Tonyrefail O'r dwyrain i'r ffordd sydd wedi'i chau, dilynwch Gilfach Road, Waunrhydd Road, Mill Street, Cylchfan Tretomas, yr A4093 (Parc Eirin), Cylchfan Gilfach Road a Gilfach Road tua'r gorllewin. I gerbydau sy'n teithio'r ffordd arall, newidiwch drefn yr uchod.

 

Gwybodaeth am weithredydd

 

Bws Caerdydd:

Radur (gwasanaeth 63)
Bydd bysiau sy’n gadael canol y ddinas am 09:55, 10:55 ac 11:55 yn teithio mor bell â Danescourt Way (Heol Seddon) yn unig.

Ni fydd bysiau y mae disgwyl iddynt adael Creigiau am 10:45, 11:45 a 12:45 yn gwasanaethu Creigiau na Radur, ac yn hytrach byddant yn dechrau eu taith o Danescourt Way.

Penarth (gwasanaethau 92 a 94)
Mae disgwyl i’r drefn cau ffyrdd ym Mhenarth ddigwydd mewn dau gam.

Bydd gwasanaeth 92 am 09:59, gwasanaeth 94 am 10:12 a gwasanaeth 94 am 12:12 i gyfeiriad Caerdydd yn dilyn eu llwybr arferol i dafarn Cefn Mably (94) / Redlands Road (92) ac yna’n cael eu dargyfeirio drwy Redlands Road, Barry Road a Barons Court cyn parhau ar hyd eu llwybr arferol i ganol y ddinas yn Penarth Road.

Bydd gwasanaeth 94 am 10:00 a 12:00 o Gaerdydd i’r Barri yn parhau i ddilyn ei lwybr arferol i Barons Court ac yna’n cael ei ddargyfeirio drwy Barry Road a Redlands Road i dafarn Cefn Mably cyn dychwelyd i’w lwybr arferol trwy Sili i’r Barri.

Y Barri (gwasanaethau 94, 95, 96A a 100)
Efallai y bydd traffig o gwmpas y Senotaff yn y Barri yn gorfod aros am ychydig am 11:00 wrth i bobl ymdawelu i dalu teyrnged.

Tredelerch (gwasanaeth 45)
Bydd bysiau sy’n gadael canol y ddinas am 10:21 a 10:51 i gyfeiriad Llaneirwg, a bysiau sy’n gadael Llaneirwg i gyfeiriad canol y ddinas am 10:22 a 10:52 yn cael eu dargyfeirio ar hyd New Road i’r ddau gyfeiriad, ac nid ar hyd Wentloog Road a Cae Glas Road.

Pentref Llaneirwg (gwasanaeth 30)
Bydd gwasanaeth 30 sy’n gadael Casnewydd am 10:30 yn dilyn ei lwybr arferol i Heol Casnewydd / Llaneirwg Way ac yna’n cael ei ddargyfeirio ar hyd Llaneirwg Way, Greenway Road, New Road a Heol Casnewydd cyn dychwelyd i’w lwybr arferol.

Yr Eglwys Newydd (gwasanaethau 21, 23, 24 a 25)
Bydd Penlline Road ar gau rhwng 10:15 a 12:00. Yn ystod y cyfnod hwn bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Church Road, Heol Don a Velindre Road i’r ddau gyfeiriad.

 

Stagecoach:

Bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau ar gyfer Sul y Cofio ar 11 Tachwedd 2018, a bydd hynny’n effeithio ar wasanaethau bws:

ABERDÂR

  • Bydd bws gwasanaeth rhif 172 sy’n ymadael am 11:00 yn mynd o waelod Monk Street am 11:05 oherwydd bod y brif stryd ar gau.

BLAENAFON High Street 10:00 – 13:00

  • Rhwng yr amseroedd hyn, bydd gwasanaeth rhif X24 yn dechrau ac yn gorffen ar Cwmavon Road ac yn defnyddio’r gylchfan i droi’n ôl i gyfeiriad y de.

PONT-Y-PŴL Park Rd / Clarence Street 11:45 – 13:00

  • Rhwng yr amseroedd hyn, bydd bws gwasanaeth rhif 15 yn mynd ar hyd Hospital Road a bydd bws gwasanaeth rhif X24 yn mynd ar hyd y ffordd osgoi wrth ymyl Tesco. Os bydd Cylchfan Clarence ar agor, bydd yn cael ei defnyddio i ollwng neu gasglu teithwyr.

PONTNEWYDD New Street / Richmond Road 10:30 – 11:30

  • Ni fydd bws gwasanaeth rhif 15 yn gallu mynd drwy Bontnewydd, a bydd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd St David's Road.

NEW INN The Highway 10:00 – 12:00

  • Efallai y bydd bws gwasanaeth rhif 15 yn gorfod dilyn parêd, felly mae’n bosibl y bydd yn cyrraedd ychydig yn hwyrach na’r disgwyl.

HEN GWMBRÂN Wesley Street / St Dials

  • Efallai y bydd bysiau gwasanaeth rhif 6 a gwasanaeth rhif 15 yn gorfod dilyn parêd, felly mae’n bosibl y byddant yn cyrraedd ychydig yn hwyrach na’r disgwyl.

CASNEWYDD

  • Bydd bysiau gwasanaeth rhif 15 a gwasanaeth rhif X24 yn gallu mynd i mewn i’r Orsaf Fysiau heblaw am yr adeg pan fydd y parêd yn mynd ar hyd Kingsway / Old Green. Dylech ddisgwyl ychydig o oedi yn ystod y cyfnod hwnnw.

TONYPANDY 

  • Yn Nhonypandy bydd bysiau sy’n cyrraedd ac yn gadael Gorsaf Fysiau Tonypandy yn cael eu dargyfeirio ar hyd Ffordd Gyswllt Tonypandy.

PONTYPRIDD

  • Ym Mhontypridd bydd bysiau’n cyrraedd ac yn gadael y dref drwy gylchfan Sainsbury’s.

BLAENRHONDDA

  • Bydd Blaenrhondda ar gau, a dim ond Blaen-cwm y byddwn yn ei wasanaethu.

YR EGLWYS NEWYDD 10:15-12:00

  • Bydd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd ar gau ar gyfer parêd, a bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Manor Way.

 

 

Newport Bus:

Hoffai Newport Bus hysbysu ei gwsmeriaid y bydd nifer o wasanaethau’n cael eu dargyfeirio ar y dyddiad uchod er mwyn caniatáu i Orymdaith Sul y Cofio ddigwydd rhwng High Street a Clarence Place.

2A Y Gaer – Bydd gwasanaeth rhif 2A am 10:20 yn gweithredu fel gwasanaeth rhif 2C ar hyd Cardiff Road, i gyfeiriad ac o gyfeiriad canol y ddinas.

6 Alway – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd y gwasanaeth hwn yn mynd ar hyd George Street Bridge, Wharf Road a Chepstow Road i’r ddau gyfeiriad. Bydd y dargyfeiriad hwn mewn grym tan y bws a fydd yn mynd am 12:20.

8A/8C Ringland – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth rhif 8A/8C yn mynd ar hyd George Street Bridge, Wharf Road a Chepstow Road i’r ddau gyfeiriad. Bydd y dargyfeiriad hwn mewn grym tan y bws a fydd yn mynd am 12:50 ar gyfer gwasanaeth rhif 8C.

15/16 Y Betws – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth rhif 15/16 yn mynd ar hyd Kingsway dan gylchfan yr Old Green Roundabout, ac yn ailymuno â Malpas Road wrth Gylchfan Harlequin. Bydd y dargyfeiriad hwn mewn grym tan y bws a fydd yn mynd am 12:40 ar gyfer gwasanaeth rhif 15.

19E Malpas – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth rhif 19E yn mynd ar hyd Kingsway dan gylchfan yr Old Green Roundabout, ac yn ailymuno â Malpas Road wrth Gylchfan Harlequin. Bydd y dargyfeiriad hwn mewn grym tan y bws a fydd yn mynd am 12:50.

27/28 Caerllion – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth rhif 27/28 yn mynd ar hyd y ffordd osgoi (A4042) dan gylchfan yr Old Green Roundabout ac ar hyd Heidenheim Drive i Llanfrechfa, Pont-hir a College Glade i’r ddau gyfeiriad. Bydd y dargyfeiriad hwn mewn grym tan y bws a fydd yn mynd am 12:30 ar gyfer gwasanaeth rhif 28.

42/43 Moorland Park – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth rhif 42/43 yn mynd ar hyd George Street Bridge lle bydd yn ailymuno â Corporation Road. Bydd y dargyfeiriad hwn mewn grym tan y bws a fydd yn mynd am 12:30 ar gyfer gwasanaeth rhif 42.

Bydd pob gwasanaeth yn dychwelyd i’r drefn arferol ar ôl yr orymdaith.

Yn ogystal, gofynnir i’n staff barchu dwy funud o dawelwch am 11am er mwyn cofio ac anrhydeddu’r sawl a gollodd eu bywydau er mwyn ein rhyddid ni.

Am 11am, gofynnir i’n gyrwyr barcio’n ddiogel wrth yr arhosfan bysiau agosaf ar hyd llwybr eu gwasanaeth er mwyn parchu’r cyfnod o dawelwch. Hoffem ddiolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.

Yn ôl