Problemau teithio

Bydd y Gorchymyn yma'n cau'r rhannau canlynol o'r ffyrdd dros dro:

 1. Ffordd Hensol, o ffin ddeheuol Rhif 1 Ffordd Hensol, i gyfeiriad y de, fwy neu lai, am bellter o 45 metr Bydd y ffordd ar gau o 2 Ionawr 2019 a 30 Ionawr 2019 neu hyd nes bydd y gwaith wedi'i gwblhau.

 2. Heol-Y-Bryn, Pontyclun Bydd y ffordd ar gau o 11 Chwefror 2019 a 28 Chwefror 2019 neu hyd nes bydd y gwaith wedi'i gwblhau.

 Mae angen cau'r rhan yma o'r ffordd fel bod modd cynnal gwaith arni neu yn ei hymyl.

 Bydd mynediad ar gyfer cerddwyr ond fydd DIM mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys.

 Mae llwybr arall i gerbydau fel a ganlyn:

 1. O ochr ogleddol y rhan sydd wedi'i chau, ewch drwy Ffordd yr Ysgol, A4119, Cylchfan Cyffordd 34 yr M4, y ffordd sy'n arwain at Fferm Tynyplanca, y ffordd sy'n arwain at Winllan Llanerch a Ffordd Hensol i ochr ddeheuol y rhan sydd wedi'i chau.

 2. O ochr ogleddol y rhan sydd wedi'i chau, ewch drwy Heol-y-Bryn, Heol-y-Coed a Heol Meisgyn (B4264) i ochr ddeheuol y rhan sydd wedi'i chau.

 Ar gyfer cerbydau sy'n teithio i'r cyfeiriad arall, dilynwch y cyfeiriadau uchod i'r gwrthwyneb.

Yn ôl