Problemau teithio

O’r wythnos a fydd yn cychwyn ddydd Sul 6 Ionawr ymlaen*, bydd Bws Caerdydd yn ymestyn gwasanaeth X59 i ddatblygiad St Edeyrn’s Village. Bydd y gwasanaeth yn rhedeg bob hanner awr, 7 diwrnod yr wythnos.

O St Edeyrn’s Village, bydd y bws yn mynd yn syth i Safle Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd. Yna, bydd yn mynd yn ei flaen i ganol y ddinas ar hyd Heol Casnewydd gan stopio wrth nifer gyfyngedig o arosfannau. Bydd hynny’n ei gwneud yn hawdd i’r preswylwyr gyrraedd canolfannau siopa ar hyd y llwybr ac yng nghanol y ddinas.

Yn ogystal, o’r un dyddiad ymlaen, bydd Safle Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd ar agor bob dydd Sul.

Yn ôl