Problemau teithio

Bydd y ffordd ymadael i gyfeiriad y gogledd ar yr A470, ger Sainsbury's, ar gau dros dro tra bydd gwaith ffordd yn cael ei gwblhau o ddydd Gwener 1 Chwefror tan ddydd Llun 4 Chwefror.

Ddydd Sul 3 Chwefror, bydd gwasanaeth 600 yn cael ei ddargyfeirio ar gyfer 2 wasanaeth olaf y dydd o Gaerdydd i Aberdâr (am 19:52 a 22:12). Ni fydd unrhyw newid i’r gwasanaeth o Aberdâr i Gaerdydd. Bydd y gwasanaeth yn defnyddio’r ffordd ymadael wrth gylchfan Upper Boat ar yr A470, ac yn cael ei ddargyfeirio trwy’r Ddraenen Wen a Rhydfelen. Yna, bydd y gwasanaeth yn dychwelyd i’w lwybr arferol o Bontypridd. 

Bydd y gwasanaeth yn aros wrth unrhyw arhosfan swyddogol ar hyd llwybr y dargyfeiriad. 

Cliciwch yma i weld map o lwybr y dargyfeiriad.

Yn ôl