Problemau teithio

Bydd y Cyngor yn archwilio safle ac yn gwneud mân waith clirio ar lwybr Taith Taf yng Nghilfynydd er mwyn ei gwneud yn bosibl yn y dyfodol i osod pont newydd yn lle pont Nant Cae-dudwg, sy’n cynnal llwybr beicio a cherdded a rennir. Bydd angen cau rhan o’r llwybr troed dros dro er mwyn cyflawni’r gwaith hwn.

Bydd y cynllun dan sylw’n dechrau ddydd Llun 28 Ionawr, a rhagwelir y bydd yn para oddeutu chwe wythnos. Mae angen cau rhan o lwybr Taith Taf yn gyfan gwbl i gyflawni’r gwaith, er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Mae pen draw deheuol y rhan o’r llwybr a fydd ar gau wrth y fynedfa ger Coedpenmaen Road yn Nhrallwng, ac yna mae’n ymestyn i gyfeiriad y gogledd ac yn cydredeg â’r afon yn gyffredinol. Mae pen draw gogleddol y rhan o’r llwybr a fydd ar gau y tu cefn i gae chwarae Clwb Rygbi Cilfynydd. Ni fydd y cynllun yn effeithio ar fynediad i’r cae chwarae na’r lôn gyfagos.

Noder: Bydd y rhan o lwybr Taith Taf a fydd ar gau’n cael ei hailagor dros dro ddydd Sul 10 Chwefror ar gyfer Ras Eithafol o Aberhonddu i Gaerdydd.

Yn ôl