Problemau teithio

Bws Caerdydd:

Mae’r Lôn Bum Milltir yn y Barri ar gau i gyfeiriad y gogledd am oddeutu 12 wythnos. Mae’r traffig a gaiff ei ddargyfeirio yn achosi tagfeydd ychwanegol ar hyd Port Road ac yng Nghroes Cwrlwys, yn enwedig yn ystod oriau brig. Mae Bws Caerdydd yn ceisio lleihau unrhyw broblemau teithio gymaint ag sy’n bosibl, ond mae oedi’n dal yn debygol ar lwybrau 96/96A/96S. Mae’r cwmni yn eich cynghori i ganiatáu amser ychwanegol i gwblhau eich taith.

Yn ôl