Problemau teithio

Dydd Sadwrn 2 Chwefror a dydd Sul 3 Chwefror

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Crewe a gorsaf Piccadilly Manceinion ddydd Sadwrn 2 Chwefror a dydd Sul 3 Chwefror.

Bydd gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Crewe a Wilmslow, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.

CrossCountry:

Bydd gwasanaethau trên i / o orsaf Piccadilly Manceinion yn cael eu dargyfeirio, ac ni fyddant yn galw yn Crewe nac yn Wilmslow. Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng:

  • Crewe a gorsaf Piccadilly Manceinion
  • Crewe, Wilmslow a Stockport.


Northern:

Ddydd Sadwrn ni fydd unrhyw un o wasanaethau Northern yn rhedeg oherwydd gweithredu diwydiannol.

Ddydd Sul bydd trenau rhwng gorsaf Piccadilly Manceinion a Crewe yn dechrau / gorffen yn Alderley Edge.  Bydd bws yn rhedeg rhwng Wilmslow a Crewe.

Trafnidiaeth Cymru:

Bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru i / o orsaf Piccadilly Manceinion yn rhedeg ar hyd llwybr amgen, ac ni fyddant yn galw yn Stockport, Wilmslow na Crewe. Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Stockport a Crewe drwy Wilmslow. Yn ogystal, bydd mwyafrif y trenau’n dechrau / gorffen yng ngorsaf Oxford Road Manceinion.

Virgin Trains:

Bydd gwasanaethau trên i / o orsaf Piccadilly Manceinion yn cael eu dargyfeirio drwy Macclesfield, ac ni fyddant yn galw yn Crewe na Wilmslow.

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Macclesfield a Wilmslow. Dylai cwsmeriaid sy’n teithio rhwng Crewe a gorsaf Piccadilly Manceinion ddefnyddio gwasanaethau amgen rhwng Crewe a Wilmslow, ac yna defnyddio’r bysiau sy’n rhedeg yn lle trenau rhwng Macclesfield a Wilmslow er mwyn cysylltu â gwasanaethau trên i / o orsaf Piccadilly Manceinion.

 

 

Dydd Sadwrn 2 Chwefror a dydd Sul 3 Chwefror

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng gorsaf New Street Birmingham / gorsaf Shrub Hill Caerwrangon a Cheltenham Spa / Caerloyw ddydd Sadwrn 2 Chwefror a dydd Sul 3 Chwefror.
Mae gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng gorsaf Ashchurch for Tewkesbury a Cheltenham / Caerloyw, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.

CrossCountry:

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng:

  • gorsaf New Street Birmingham a Cheltenham Spa
  • gorsaf New Street Birmingham a Chaerloyw
  • Cheltenham Spa a Chaerloyw.

Great Western Railway:

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng:

  • gorsaf Shrub Hill Caerwrangon a Chaerloyw
  • gorsaf Ashchurch for Tewkesbury a Chaerloyw
  • Cheltenham Spa a Chaerloyw.

Bydd cysylltiadau â threnau ar gyfer gorsafoedd i gyfeiriad Henffordd ar gael o orsaf Shrub Hill Caerwrangon.

Trafnidiaeth Cymru:

Bydd gwasanaethau rhwng Maesteg / Caerdydd Canolog a Cheltenham Spa yn cael eu newid fel eu bod yn rhedeg rhwng Maesteg / Caerdydd Canolog a Chaerloyw. Dylai cwsmeriaid ddefnyddio gwasanaethau amgen rhwng Caerloyw a Cheltenham Spa.

 

 

Dydd Sul 3 Chwefror

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog a Thref Glynebwy oherwydd gwaith peirianyddol.
 
Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni oherwydd gwaith peirianyddol.

Mae gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni yn ardal gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd, sy’n golygu y bydd rhai rheilffyrdd ar gau:

  • Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau tan 12:20 rhwng gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd a Radur.
  • Ni fydd trenau’n rhedeg i / o Fae Caerdydd. Dylai cwsmeriaid deithio ar wasanaeth bws rhif 6.
  • Bydd gwasanaethau trên i / o Dreherbert / Aberdâr / Merthyr Tudful yn cael eu dargyfeirio ar hyd llwybr amgen i orsaf Caerdydd Canolog, ac ni fyddant yn galw yn Llandaf na Cathays.
  • Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Radur a Llandaf / Cathays.
  • Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe / Caerfyrddin oherwydd gwaith peirianyddol rhwng y Pîl ac Abertawe.

Great Western Railway:

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe, a byddant yn cynnwys bysiau uniongyrchol (a fydd yn galw ym Mhen-y-bont ac Abertawe yn unig) a bysiau a fydd yn aros (a fydd yn teithio o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe ac yn galw yng ngorsaf Parkway Port Talbot a Chastell-nedd).

Dylai cwsmeriaid sy’n teithio i / o Gaerfyrddin ddefnyddio gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru.

Trafnidiaeth Cymru:

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Llanelli, a rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerfyrddin.

 

 

Dydd Llun 4 Chwefror i ddydd Iau 7 Chwefror

Bydd gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru yn hwyr y nos yn cael eu newid oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni mewn amryw fannau yn ardal Caerdydd, sy’n golygu y bydd rhai rheilffyrdd ar gau.

O ganlyniad, bydd y gwasanaethau trên canlynol yn cael eu newid:

  • Bydd gwasanaeth 22:38 o Ferthyr Tudful i orsaf Caerdydd Canolog yn cael ei ddargyfeirio, ac ni fydd yn galw mewn gorsafoedd drwy Landaf. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên o Radur i orsaf Caerdydd Canolog er mwyn gwasanaethu’r gorsafoedd hynny.
  • Bydd gwasanaeth 22:45 o Ynys y Barri i Bontypridd yn cael ei ddargyfeirio, ac ni fydd yn galw mewn gorsafoedd drwy Landaf. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng Caerdydd Canolog a Phontypridd er mwyn gwasanaethu’r gorsafoedd hynny.
  • Bydd gwasanaeth 22:50 o Benarth i Ystrad Mynach yn gorffen yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng Caerdydd Canolog ac Ystrad Mynach.
  • Bydd gwasanaeth 23:14 o Radur i Ynys y Barri yn cael ei ddargyfeirio, ac ni fydd yn galw mewn gorsafoedd drwy Landaf. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng Radur ac Ynys y Barri er mwyn gwasanaethu’r gorsafoedd hynny.

 

 

Dydd Llun 4 Chwefror i ddydd Iau 7 Chwefror

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau yn hwyr y nos rhwng gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd.
Mae gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd dros nos rhwng nos Lun a bore dydd Gwener.

Ar ôl 23:15 bob nos, bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd.

 

 

Dydd Llun 4 Chwefror i ddydd Iau 7 Chwefror

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau yn hwyr y nos rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni dros nos rhwng nos Lun a bore dydd Gwener.


O ganlyniad, bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau ar ôl 23:00 o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni. At hynny, bydd bws yn rhedeg yn lle gwasanaeth 22:35 ar ei hyd o orsaf Caerdydd Canolog i Rymni.

 

 

Dydd Sadwrn 9 Chwefror a dydd Sul 10 Chwefror

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Harbwr Abergwaun a Chaerfyrddin oherwydd gwaith peirianyddol, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.
 
Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Crewe a gorsaf Piccadilly Manceinion oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Crewe a Wilmslow, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.

CrossCountry:

Bydd gwasanaethau trên i / o orsaf Piccadilly Manceinion yn cael eu dargyfeirio, ac ni fyddant yn galw yn Crewe nac yn Wilmslow. Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng:

  • Crewe a gorsaf Piccadilly Manceinion
  • Crewe, Wilmslow a Stockport.

Northern:

Ddydd Sadwrn ni fydd unrhyw un o wasanaethau Northern yn rhedeg oherwydd gweithredu diwydiannol.

Ddydd Sul bydd trenau rhwng gorsaf Piccadilly Manceinion a Crewe yn dechrau / gorffen yn Alderley Edge.  Bydd bws yn rhedeg rhwng Wilmslow a Crewe.

Trafnidiaeth Cymru:

Bydd trenau’n cael eu dargyfeirio drwy orsaf Bank Quay Warrington. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trenau rhwng Stockport a Crewe.

Virgin Trains:

Bydd gwasanaethau trên i / o orsaf Piccadilly Manceinion yn cael eu dargyfeirio drwy Macclesfield, ac ni fyddant yn galw yn Crewe na Wilmslow.

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Macclesfield a Wilmslow. Dylai cwsmeriaid sy’n teithio rhwng Crewe a gorsaf Piccadilly Manceinion ddefnyddio gwasanaethau amgen rhwng Crewe a Wilmslow, ac yna defnyddio’r bysiau sy’n rhedeg yn lle trenau rhwng Macclesfield a Wilmslow er mwyn cysylltu â gwasanaethau trên i / o orsaf Piccadilly Manceinion.

 

 

Dydd Sul 10 Chwefror

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Wrecsam a Bidston oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng gorsaf gyffredinol Wrecsam a Bidston, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.
 
Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Aberystwyth a’r Drenewydd oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Aberystwyth a’r Drenewydd, sy’n golygu bod y rheilffordd ar gau.
 
Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog a Chasnewydd oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Caerdydd Canolog a Chasnewydd, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.
Trafnidiaeth Cymru

Rheilffyrdd y Cymoedd

Tan 12:40:

  • Bydd gwasanaethau Rhymni / Ystrad Mynach yn rhedeg i / o Fae Caerdydd.
  • Bydd gwasanaethau Ynys y Barri / Pen-y-bont ar Ogwr yn rhedeg i / o Barc Ninian a bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng Cogan a gorsaf Caerdydd Canolog.

Ar ôl 12:40:

Bydd pob un o wasanaethau Rheilffyrdd y Cymoedd yn rhedeg fel arfer, ond bydd rhai gwasanaethau’n defnyddio platfform 8 er mwyn galluogi gwasanaethau’r brif reilffordd i ddefnyddio platfform 6 yng nghorsaf Caerdydd Canolog.

Gwasanaethau’r brif reilffordd

  • Bydd gwasanaethau Glynebwy yn cael eu dargyfeirio i Gasnewydd, a bydd cysylltiadau bws ar gael i / o orsaf Caerdydd Canolog yn Pye Corner.
  • Bydd gwasanaethau o orsaf Caerdydd Canolog i Gaerloyw / Cheltenham Spa yn rhedeg i / o Gasnewydd.

Bydd gwasanaethau’r gogledd a’r gorllewin yn rhedeg i / o Gasnewydd.

Bydd gwasanaethau gorllewin Cymru yn rhedeg i / o Ben-y-bont ar Ogwr tan 12:30, a bydd bws yn rhedeg rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr gan wasanaethu gorsafoedd drwy Bont-y-clun.

Ar ôl 12:30 bydd gwasanaethau gorllewin Cymru yn rhedeg i / o orsaf Caerdydd Canolog (platfform 6) drwy Linell Osgoi Lecwydd.

 

 

Dydd Llun 11 Chwefror i ddydd Iau 14 Chwefror

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle rhai o wasanaethau hwyr y nos Trafnidiaeth Cymru i / o orsaf Piccadilly Manceinion oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni yn ardal gorsaf Piccadilly Manceinion, sy’n golygu y bydd rhai rheilffyrdd ar gau ar ôl 23:25 bob nos.

O ganlyniad, bydd y gwasanaethau canlynol gan Trafnidiaeth Cymru yn cael eu newid:

  • Bydd bws yn rhedeg o orsaf Bank Quay Warrington i orsaf Piccadilly Manceinion yn lle gwasanaeth 21:04 o Birmingham International i orsaf Piccadilly Manceinion.
  • Bydd bws yn rhedeg yn lle gwasanaeth 00:32 o orsaf Piccadilly Manceinion i Gaer.

 

Bydd gwasanaethau hwyr y nos rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr yn cael eu newid oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni yn ardal Caerdydd, sy’n golygu y bydd rhai rheilffyrdd ar gau ar ôl 22:20 bob nos.

O ganlyniad, bydd y gwasanaethau trên canlynol yn cael eu newid:

  • Bydd gwasanaeth 17:20 o Crewe i orsaf Caerdydd Canolog (drwy Drefyclo) yn cyrraedd Caerdydd Canolog yn hwyrach nag arfer.
  • Bydd gwasanaeth 19:31 o orsaf Piccadilly Manceinion i Harbwr Abergwaun yn cael ei ddargyfeirio rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr. Bydd bws yn rhedeg o orsaf Caerdydd Canolog i Ben-y-bont ar Ogwr, gan alw ym Mhont-y-clun, Llanharan neu Bencoed, a bydd yn cysylltu ym Mhen-y-bont ar Ogwr â’r trên a ddargyfeiriwyd.

 

 

Dydd Llun 11 Chwefror i ddydd Gwener 15 Chwefror

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Machynlleth ac Aberystwyth o 23:00 tan 05:45 bob nos oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Machynlleth ac Aberystwyth, sy’n golygu y bydd rhai rheilffyrdd ar gau rhwng 23:00 a 05:45 bob nos.

Bydd rhai bysiau’n gadael yn gynharach nag amser arferol y trên, er mwyn cysylltu â threnau eraill.

 

 

Dydd Sadwrn 16 Chwefror a dydd Sul 17 Chwefror

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Harbwr Abergwaun / Aberdaugleddau / Doc Penfro a Hendy-gwyn ar Daf. Mae hynny oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Harbwr Abergwaun / Aberdaugleddau a Hendy-gwyn ar Daf ddydd Sadwrn a rhwng Harbwr Abergwaun / Aberdaugleddau / Doc Penfro a Hendy-gwyn ar Daf ddydd Sul, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.

Dydd Sadwrn

Drwy gydol dydd Sadwrn bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Harbwr Abergwaun / Aberdaugleddau a Hendy-gwyn ar Daf.

Dydd Sul

Drwy gydol dydd Sul bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Doc Penfro / Aberdaugleddau / Harbwr Abergwaun a Hendy-gwyn ar Daf.

 

 

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng gorsaf Piccadilly Manceinion a Crewe oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng gorsaf Piccadilly Manceinion a Crewe ddydd Sadwrn 16 Chwefror a dydd Sul 17 Chwefror, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.

Bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i’r gwasanaeth trên:

CrossCountry:

Bydd gwasanaethau CrossCountry sydd i fod i redeg rhwng gorsaf Piccadilly Manceinion a Crewe yn cael eu dargyfeirio drwy Stoke-on-Trent a Stafford, ac felly ni fyddant yn galw yn Wilmslow na Crewe.

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng gorsaf Piccadilly Manceinion / Stockport / Wilmslow a Crewe.

Northern:

Ddydd Sadwrn ni fydd unrhyw un o wasanaethau Northern yn rhedeg oherwydd gweithredu diwydiannol.

Ddydd Sul bydd trenau rhwng gorsaf Piccadilly Manceinion a Crewe yn dechrau / gorffen yn Alderley Edge.  Bydd bws yn rhedeg rhwng Wilmslow a Crewe.

Trafnidiaeth Cymru:

Drwy gydol dydd Sadwrn a dydd Sul bydd trenau’n dechrau / gorffen yng ngorsaf Oxford Road Manceinion ac yn cael eu dargyfeirio drwy orsaf Bank Quay Warrington. Bydd bysiau’n rhedeg rhwng Stockport, Wilmslow a Crewe.

Virgin Trains:

Bydd gwasanaethau Virgin Trains sydd i fod i redeg rhwng gorsaf Piccadilly Manceinion a Crewe yn cael eu dargyfeirio drwy Stoke-on-Trent a Stafford, ac felly ni fyddant yn galw yn Wilmslow na Crewe.

Bydd bysiau’n rhedeg rhwng Wilmslow a Macclesfield a bydd gwasanaeth bws cyfyngedig yn ategu’r gwasanaeth trên rhwng Crewe a Stafford.

Bydd rhai o wasanaethau Virgin Trains sy’n teithio tua’r de o orsaf Lime Street Lerpwl yn galw hefyd yn Crewe.

Dylai cwsmeriaid sydd am deithio i Crewe o orsaf Piccadilly Manceinion deithio drwy Stafford er mwyn cysylltu â gwasanaethau eraill Virgin Trains a’r bysiau sy’n rhedeg yn lle trenau.

Dylai cwsmeriaid sy’n teithio i / o Wilmslow ddefnyddio’r bysiau sy’n rhedeg yn lle trenau i deithio drwy Macclesfield.

 

 

Dydd Sul 17 Chwefror

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau tan 13:35 rhwng Caerdydd Canolog a Thref Glynebwy oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni tan 13:35 rhwng Caerdydd Canolog a Thref Glynebwy, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.
 

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Wrecsam a Bidston oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng gorsaf gyffredinol Wrecsam a Bidston, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.
 

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Machynlleth a’r Drenewydd oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Machynlleth a’r Drenewydd, sy’n golygu y bydd y rheilffordd ar gau.
 

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng gorsaf Parkway Bryste / Cyffordd Twnnel Hafren a gorsaf Caerdydd Canolog. Mae hynny oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Cyffordd Twnnel Hafren a Chasnewydd, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd rhwng y gorsafoedd hyn ar gau.

O ganlyniad, bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i’r gwasanaeth trên:

CrossCountry:
Bydd gwasanaethau CrossCountry sydd i fod i deithio i / o orsaf Caerdydd Canolog yn gorffen / ailddechrau yng Nghyffordd Twnnel Hafren.

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Cyffordd Twnnel Hafren a Chasnewydd. Gallwch ddefnyddio eich tocyn ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru rhwng Casnewydd a gorsaf Caerdydd Canolog.

Great Western Railway:
Mae’n bosibl y bydd gwasanaethau Great Western Railway sydd i fod i deithio i / o orsaf Caerdydd Canolog yn gorffen / ailddechrau yng ngorsaf Parkway Bryste neu y byddant yn cael eu canslo, ac y bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng gorsaf Parkway Bryste a gorsaf Caerdydd Canolog.

Bydd trenau’n parhau i redeg rhwng Caerdydd Canolog a Chaerfyrddin / Abertawe.

Trafnidiaeth Cymru:
Bydd trenau rhwng Caerdydd Canolog a gorsaf Piccadilly Manceinion yn dechrau / gorffen yng Nghwmbrân.  Bydd bysiau sy’n rhedeg yn lle trenau yn cysylltu â’r trenau yng Nghwmbrân. Bydd trenau rhwng Caerdydd Canolog a Chaerloyw / Cheltenham Spa yn dechrau / gorffen yng Nghyffordd Twnnel Hafren.  Bydd bysiau sy’n rhedeg yn lle trenau yn cysylltu â’r trenau yng Nghyffordd Twnnel Hafren.

 

 

Dydd Llun 18 Chwefror i ddydd Iau 21 Chwefror

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog a Thref Glynebwy ar ôl 21:30 bob nos oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Caerdydd Canolog a Thref Glynebwy, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.
 

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle rhai o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn hwyr y nos i / o orsaf Piccadilly Manceinion. Mae hynny oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni yn ardal gorsaf Piccadilly Manceinion, sy’n golygu y bydd rhai rheilffyrdd ar gau ar ôl 23:25 bob nos.

  • Bydd bws yn rhedeg o orsaf Bank Quay Warrington i orsaf Piccadilly Manceinion yn lle gwasanaeth 21:04 o Birmingham International i orsaf Piccadilly Manceinion.
  • Bydd bws yn rhedeg yn lle gwasanaeth 00:32 o orsaf Piccadilly Manceinion i Gaer.
  • Bydd gwasanaeth 03:36 o Gaer i Faes Awyr Manceinion yn dechrau’n hwyrach (am 04:00) a bydd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd llwybr arall.
  • Bydd gwasanaeth 05:33 o Faes Awyr Manceinion i Gyffordd Llandudno yn dechrau o orsaf Piccadilly Manceinion am 05:47.

 

 

Dydd Sadwrn 23 Chwefror a dydd Sul 24 Chwefror

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng gorsaf Piccadilly Manceinion a Crewe oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Wilmslow a Crewe, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.

Bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i’r gwasanaeth trên:

CrossCountry:

Bydd gwasanaethau CrossCountry yn cael eu dargyfeirio drwy Stoke-on-Trent a Stafford ac ni fyddant yn galw yn Wilmslow na Crewe.

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng gorsaf Piccadilly Manceinion / Stockport / Wilmslow a Crewe.

Northern:

Dydd Sadwrn

Bydd gwasanaethau trên rhwng gorsaf Piccadilly Manceinion a Crewe yn cael eu newid fel eu bod yn gorffen / dechrau yn Alderley Edge.

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Wilmslow a Crewe.

Dydd Sul

Bydd gwasanaethau trên rhwng Manceinion a Wilmslow drwy Faes Awyr Manceinion yn cael eu newid fel eu bod yn dechrau / gorffen ym Maes Awyr Manceinion.

NI FYDD gwasanaethau trên rhwng gorsaf Piccadilly Manceinion a Crewe drwy Stockport yn rhedeg.

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Maes Awyr Manceinion a Wilmslow a rhwng Stockport a Crewe.

Trafnidiaeth Cymru:

Bydd gwasanaethau i / o orsaf Piccadilly Manceinion yn cael eu dargyfeirio drwy orsaf Bank Quay Warrington. Bydd rhai gwasanaethau’n cael eu newid fel eu bod yn dechrau / gorffen yng ngorsaf Oxford Road Manceinion.

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Stockport, Wilmslow a Crewe.

Virgin Trains:

Bydd gwasanaethau trên i / o orsaf Piccadilly Manceinion yn cael eu dargyfeirio drwy Stoke-on-Trent, a byddant yn galw hefyd yn Macclesfield.

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Macclesfield a Wilmslow.

Yn ogystal:

Dydd Sadwrn:

  • Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên o Stafford i Crewe, a bydd yn cysylltu â gwasanaeth 21:00 o orsaf Euston Llundain i orsaf Piccadilly Manceinion.
  • Bydd gwasanaethau 05:46 a 17:47 o orsaf Lime Street Lerpwl i orsaf Euston Llundain yn galw hefyd yn Crewe.

Dydd Sul:

  • Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên o Stafford i Crewe, a bydd yn cysylltu â gwasanaeth 21:51 o orsaf Euston Llundain i orsaf Piccadilly Manceinion.

 

 

Dydd Sul 24 Chwefror:

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau gyda’r nos rhwng Amwythig / Caer a Crewe ddydd Sul 24 Chwefror. Mae hynny oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Amwythig a Crewe ar ôl 22:05, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.
O ganlyniad:

  • Bydd gwasanaeth 21:09 o Birmingham International i Gaer yn cael ei ddargyfeirio drwy orsaf gyffredinol Wrecsam (ond ni fydd yn galw yno). Dylai cwsmeriaid sy’n teithio i Crewe newid yn Amwythig er mwyn dal bws sy’n teithio yn lle’r trên i Crewe.
  • Bydd gwasanaeth 21:12 o orsaf Caerdydd Canolog i Gaer yn cael ei ddargyfeirio drwy orsaf gyffredinol Wrecsam (ond ni fydd yn galw yno). Dylai cwsmeriaid sy’n teithio i Yorton, Wem, Prees, Whitchurch, Wrenbury, Nantwich a Crewe newid yn Amwythig er mwyn dal bws sy’n teithio yn lle’r trên i Crewe.
  • Bydd gwasanaeth 23:00 o Gaer i Amwythig yn dechrau am 23:19, a bydd yn cael ei ddargyfeirio drwy orsaf gyffredinol Wrecsam (ond ni fydd yn galw yno). Bydd bws yn teithio yn lle’r trên rhwng Crewe ac Amwythig.

 

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Machynlleth a’r Drenewydd oherwydd gwaith peirianyddol, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.
 

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Caerfyrddin a Doc Penfro oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Hendy-gwyn ar Daf a Dinbych-y-pysgod, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.
 

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Pen-y-bont ar Ogwr / Ynys y Barri / Penarth a gorsaf Caerdydd Canolog tan 12:25 oherwydd gwaith peirianyddol rhwng Penarth / Ynys y Barri a gorsaf Caerdydd Canolog, sy’n golygu y bydd pob rheilffordd ar gau.

O ganlyniad, tan 12:25, bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng:

  • Pen-y-bont ar Ogwr a gorsaf Caerdydd Canolog (drwy’r Barri)
  • Ynys y Barri a gorsaf Caerdydd Canolog
  • Penarth a gorsaf Caerdydd Canolog.

 

 

Dydd Llun 25 Chwefror i ddydd Gwener 1 Mawrth

Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau hwyr y nos / cynnar y bore yn ardal Caerdydd oherwydd bod gwaith peirianyddol yn cael ei gyflawni rhwng Caerdydd Canolog a Phenarth / Ynys y Barri, sy’n golygu y bydd y rheilffyrdd ar gau dros nos rhwng nos Lun a bore dydd Gwener.

Dydd Llun i ddydd Iau:

  • Bydd gwasanaeth 20:38 o Ferthyr Tudful i Ben-y-bont ar Ogwr yn gorffen yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr.
  • Bydd gwasanaeth 21:38 o Ferthyr Tudful i Ben-y-bont ar Ogwr yn gorffen yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr.
  • Bydd gwasanaeth 21:52 o Aberdâr i Benarth yn gorffen yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng Caerdydd Canolog a Phenarth.
  • Bydd bws yn rhedeg yn lle gwasanaeth 22:42 ar ei hyd o Ben-y-bont ar Ogwr i orsaf Caerdydd Canolog.
  • Bydd gwasanaeth 23:14 o Radur i Ynys y Barri yn gorffen yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr.
  • Bydd bws yn rhedeg yn lle gwasanaeth 23:26 ar ei hyd o Benarth i orsaf Caerdydd Canolog.


Dydd Mawrth i ddydd Gwener:

  • Bydd gwasanaeth 05:15 o Ynys y Barri i Gaerffili yn dechrau o orsaf Caerdydd Canolog. Bydd bws yn rhedeg yn lle’r trên o Ynys y Barri am 04:51 i orsaf Caerdydd Canolog er mwyn cysylltu â’r trên.
Yn ôl