Problemau teithio

Ers cau ei arhosfan yn Heol y Tollty yng nghanol Caerdydd, mae gwasanaeth X10 wedi symud i arhosfan JM yn Heol Penarth.

Yn aml, fodd bynnag, nid yw’r arhosfan hwnnw’n rhydd oherwydd y modd y mae arosfannau gwasanaethau eraill wedi’u symud o Heol y Tollty a Stryd Wood. Dylai gwasanaeth X10 ymadael o arhosfan JM, ond yn aml nid yw’n gallu cyrraedd yr arhosfan hwnnw oherwydd bysiau eraill. Felly, bydd yn defnyddio’r arhosfan agosaf sydd ar gael. 

Yn anffodus, bydd hynny’n siŵr o ddigwydd yn aml nes y bydd trefn newydd yr arosfannau wedi sefydlogi, ac oherwydd bod y sefyllfa’n newid mor sydyn ni allwn ragweld pa arhosfan fydd yn cael ei ddefnyddio. Dylech fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd y gallai’r gwasanaeth fod yn defnyddio arhosfan arall.

Yn ôl