Problemau teithio

First Cymru:

Mae disgwyl i lawer o bobl fynychu’r amryw safleoedd trwyddedig ar y dyddiadau isod oherwydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Felly, mae Cyngor Abertawe wedi datgan ei fod o’r farn ei bod yn angenrheidiol ymestyn y trefniadau presennol ar gyfer cau ffyrdd i gerbydau, ar Stryd y Gwynt ac yn rhan o Sgwâr y Castell, er mwyn diogelu’r cyhoedd.

Ar ôl canol dydd ar y dyddiadau canlynol, bydd y gwasanaethau sydd fel rheol yn teithio ar hyd Sgwâr y Santes Fair a Stryd Caer yn cael eu dargyfeirio ar hyd Stryd Christina. Bydd hynny’n effeithio ar y gwasanaethau canlynol: 4, 4A, 6, 16, 25, 27, 28, 30, 34, 36, 501, 502 ac X6.

  • Dydd Sadwrn 9 Chwefror 2019
  • Dydd Sadwrn 23 Chwefror 2019
  • Dydd Sadwrn 9 Mawrth 2019
  • Dydd Sadwrn 16 Mawrth 2019
Yn ôl