Problemau teithio

Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos y bydd y cynllun teithio’n rhad ac am ddim bob penwythnos ar wasanaethau TrawsCymru yn parhau. Oherwydd rhai newidiadau yng Nghaerdydd, dylech gofio’r canlynol ar ddydd Sadwrn a dydd Sul:

AR DDYDD SADWRN (T4/T14)

Bydd y cyfyngiadau canlynol ar waith rhwng cyffordd yr M4 yn Coryton a chanol Caerdydd:

  • Mae’n bosibl mai dim ond ar y ffordd i mewn i Gaerdydd y bydd gwasanaethau T4/T14 yn aros i ollwng teithwyr.
  • Mae’n bosibl mai dim ond ar y ffordd allan o Gaerdydd y bydd gwasanaethau T4/T14 yn aros i gasglu teithwyr.

 * Os bydd y bws yn aros i ollwng teithwyr a bod cwsmer am ddod ar y bws, bydd yn rhaid codi’r ffi briodol. Nid yw tocynnau ar gyfer teithiau byr lleol (“Local Hop”) ar gael ar wasanaethau TrawsCymru. 

Cyfyngiadau ychwanegol ar wasanaeth T14:

  • Nid yw’r cynllun teithio’n rhad ac am ddim ar gael ar gyfer teithiau yn Lloegr yn unig.
  • Nid yw’r cynllun teithio’n rhad ac am ddim ar gael ar gyfer teithiau o Loegr oni bai bod gan y cwsmer docyn i ddychwelyd yn rhad ac am ddim ar wasanaeth T14 (“Free Return T14”) (sydd ar gael ar ddewislen y Grid ar gyfer Oedolion)
  • Gall cwsmeriaid deithio’n rhad ac am ddim i gyfeiriad y de o’r Gelli Gandryll.

AR DDYDD SUL (T4)

Gan mai ychydig o wasanaethau eraill sy’n gweithredu ar hyd Manor Way yng Nghaerdydd, bydd y trefniadau ar gyfer dydd Sul yn wahanol:

  • Mae’n bosibl y bydd gwasanaeth T4 yn aros i ollwng a chasglu teithwyr i’r ddau gyfeiriad o fewn terfynau Caerdydd.
  • Rhaid codi’r ffi briodol ar gyfer teithiau oddi mewn i Gaerdydd.
  • Dim ond tocynnau unffordd safonol y gellir eu cynnig i’r de o Gabalfa. 
Yn ôl