Problemau teithio

Mae disgwyl i'r ffyrdd fod ar gau dros nos rhwng 8.00pm a 5.30am yn ôl yr angen rhwng 24 Chwefror 2019 a 31 Mawrth 2019, neu hyd nes i'r gwaith gael ei orffen.

 

Rhan 1: Yr A4119 tua'r gogledd, o gylchfan yr A4119/A473 (Matalan) i groesffordd Tonysguboriau (gan gynnwys mynedfa/allanfa Parc Manwerthu Tesco)

Llwybr Amgen – O ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd yr A473, cylchfan Glan-elái, Heol Glan-elái a Heol Talbot i ochr ogleddol y ffordd sydd ar gau.

 

Rhan 2: Yr A4119 tua'r de, o gylchfan yr A4119/A473 (Matalan) i groesffordd Tonysguboriau

Llwybr Amgen – O ochr ogleddol y ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd Heol Talbot, Heol Glan-elái, cylchfan Glan-elái a'r A473 i ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau.

 

Rhan 3: Y B4595 tua'r dwyrain a'r gorllewin ar groesffordd Tonysguboriau

Llwybr Amgen – O ochr orllewinol y ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd yr A4119 Heol Cwm Elái (tua'r gogledd), cylchfan Heol Gwaun Eli a'r A4119 Heol Cwm Elái (tua'r de) i ochr ddwyreiniol y ffordd sydd ar gau. O ochr ddwyreiniol y ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd yr A4119 tua'r de, cylchfan yr A4119/A473 (Matalan), a'r A4119 tua'r gogledd i ochr orllewinol y ffordd sydd ar gau.

 

Rhan 4: Mynedfa/allanfa Parc Manwerthu Tesco o'r B4295, Heol Talbot

Llwybr Amgen – O ochr ogleddol y ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd y B4595, Heol Talbot, yr A4119 a mynedfa/allanfa yr A4119 i Barc Manwerthu Tesco. Y gwrthwyneb i'r uchod yw'r llwybr i gerbydau sy'n teithio i'r cyfeiriad arall.

 

Rhan 5: Y B4595, Heol Talbot tua'r dwyrain o'i chyffordd â chroesffordd Tonysguboriau, tua'r de-orllewin am 200 metr.

Llwybr Amgen – O ochr orllewinol y ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd Heol Talbot, Heol Glan-elái, cylchfan Glan-elái, yr A473 a'r A4119 i ochr ddwyreiniol y ffordd sydd ar gau

 

Rhan 6: Y B4595, Heol Talbot tua'r gorllewin o'i chyffordd â chroesffordd Tonysguboriau, tua'r de-orllewin am 200 metr

Llwybr Amgen – Ar gyfer traffig tua'r gorllewin, ewch ar hyd yr A4119, yr A473, cylchfan Glan-elái, Heol Glan-elái a Heol Talbot.

 

Mae angen cau'r ffyrdd yma fel bod modd cynnal gwaith arnyn nhw neu yn eu hymyl.

Bydd mynediad yn dal i fod ar gael i gerddwyr yn ogystal â cherbydau'r gwasanaethau brys.

Yn ôl