Problemau teithio

Disgwylir i’r trefniant hwn fod ar waith o 7am i 6pm rhwng 25 Chwefror 2019 a 3 Mawrth 2019 neu nes y bydd y gwaith dan sylw wedi’i gwblhau. 

1. Llantrisant Road, Penycoedcae o’r gyffordd â Penycoedcae Road, am 300 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.

2. Penycoedcae Road o’r gyffordd â Llantrisant Road, am 375 metr i gyfeiriad y de.

  • Oherwydd bod Penycoedcae ar gau o ddydd Llun 25 Chwefror tan ddydd Sul 3 Mawrth, bydd gwasanaeth 404 yn cael ei ddargyfeirio rhwng 09:00 a 15:00 ar bob un o’r dyddiadau dan sylw.

    Cliciwch yma i weld y manylion llawn am lwybr y dargyfeiriad. O safbwynt trigolion Penycoedcae, bydd NAT yn gweithredu gwasanaeth bws gwennol rhwng Gorsaf Fysiau Pontypridd a’r Queens Head. Bydd y bws gwennol yn gadael pob arhosfan ar yr amserau arferol sydd wedi’u nodi ar yr amserlen.

 

3. Tonyrefail Road o’r gyffordd â Llantrisant Road, am 135 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin.

Rhaid cau’r ffyrdd dros dro er mwyn gallu cyflawni gwaith ar y ffordd neu wrth ei hymyl.

Bydd modd sicrhau mynediad ar gyfer cerddwyr drwy gydol yr amser. NI fydd modd sicrhau mynediad ar gyfer cerbydau brys.

Llwybrau amgen

O ochr ddeheuol y ffyrdd a fydd ar gau, dylai cerbydau fynd ar hyd Penycoedcae Road, Gwaunmiskin Road, Llantrisant Road (Beddau Halt), Ffordd Osgoi A473 Gartholwg, Tonteg Road, Cylchfan Upper Boat, yr A470, Broadway, Sardis Road, Factory Lane a Llantrisant Road i ochr ogleddol y ffyrdd a fydd ar gau.

Dylai cerbydau sy’n teithio i’r cyfeiriad arall ddilyn y cyfarwyddiadau uchod am yn ôl. 

Yn ôl