Problemau teithio

Llew Jones

Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra, ond bydd ein gwasanaeth rhif X19 yn rhedeg ychydig yn hwyr yn ystod y 12 wythnos nesaf, o 25 Chwefror ymlaen, oherwydd bod rhan o Conway Road yng Nghyffordd Llandudno ar gau. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A55, ac ni fydd y bysiau’n aros ar Narrow Lane. Bydd y bysiau’n dal i fynd i orsaf drenau Llandudno yn ôl yr arfer.

 

Arriva Cymru

O ddydd Llun 18 Chwefror 2019 ymlaen, bydd Conway Road ar gau rhwng cyffordd Avallon Avenue ac Oswald Road am oddeutu 12 wythnos. Oherwydd hynny, bydd gwasanaethau rhif 13, 24, 25 a 27 yn cael eu dargyfeirio.

Gwasanaeth 13

Rhwng New Road a chylchfan Black Cat, bydd y gwasanaeth yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A546 a’r A55, ac ni fydd yn gwasanaethu Ferndale Road a’r rhan o Conway Road sydd rhwng Ferndale Road a’r A55.

 

Gwasanaethau 24 a 27

Rhwng New Road a chylchfan Black Cat, bydd y gwasanaethau’n cael eu dargyfeirio ar hyd yr A546 a’r A55, ac ni fyddant yn gwasanaethu Ferndale Road a’r rhan o Conway Road sydd rhwng Ferndale Road a’r A55. Byddant yn parhau i fynd i Tesco. Bydd arhosfan ychwanegol wrth orsaf Cyffordd Llandudno (i’r ddau gyfeiriad) yn cael ei wasanaethu.

 

Gwasanaeth 25

Rhwng New Road a chylchfan Black Cat, bydd y gwasanaeth yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A546 a’r A55, ac ni fydd yn gwasanaethu Ferndale Road a’r rhan o Conway Road sydd rhwng Ferndale Road a’r A55. Bydd y gwasanaeth yn dal i wasanaethu Narrow Lane a Phendyffryn ond ni fydd yn gwasanaethu Nant y Coed a Ronald Avenue.

Yn ôl