Problemau teithio

Ddydd Sadwrn 16 Mawrth, yn ogystal â gêm rygbi Cymru yn erbyn Iwerddon, cynhelir gorymdaith brotest lle bydd pobl yn crynhoi yn y Ganolfan Ddinesig o 11am ymlaen ac yn dechrau gorymdeithio am ganol dydd o waelod Rhodfa’r Brenin Edward VII.

Er bod rhan gyntaf yr orymdaith yn digwydd ar ffyrdd a fydd yn cael eu cau o 11am ymlaen ar gyfer y gêm, nid yw rhan olaf yr orymdaith yn digwydd ar y ffyrdd hynny. Felly, mae’n bosibl y gallai fod yna oedi ar y rhwydwaith yn yr ardal honno.

Bydd llwybr yr orymdaith yn mynd ar hyd Procession Way ar draws Boulevard de Nantes, i lawr Ffordd y Brenin ac ar hyd Heol y Castell o flaen y castell, ac i lawr i ran isaf Heol y Gadeirlan/cyffordd Heol y Gadeirlan. Yno, bydd yn mynd i gyfeiriad y de ar hyd Clare Road, trwy gyffordd Heol Penarth, ac ymlaen i Corporation Road bob cam i Grange Gardens.

Caiff yr orymdaith ei rheoli trwy gau’r ffyrdd yn eu tro, ac mae disgwyl iddi gyrraedd Grange Gardens o 1pm ymlaen.

Yn ôl