Stagecoach South Wales
O ddydd Llun 1 Ebrill 2019 ymlaen, bydd prisiau tocynnau ar nifer o wasanaethau ym Mhowys yn newid. Dyma’r gwasanaethau yr effeithir arnynt:
- Bydd prisiau newydd ar waith ar wasanaethau 40A, 40B a 40C Tref Aberhonddu ac ar wasanaethau 43/X43 Aberhonddu – Crucywel – Y Fenni.
- Bydd prisiau newydd ar waith ar wasanaeth T4 i’r gogledd o Aberhonddu (Bishop’s Meadow) a gwasanaeth T14 Bishop’s Meadow – Aberllynfi. Bydd prisiau newydd ar waith hefyd rhwng yr ardal uchod a Merthyr Tudful, Pontypridd a Chaerdydd.
Tocyn Diwrnod (Day Rover) Powys:
Oedolyn - £9.00
Plentyn/fyngherdynteithio - £6.00
Teulu o hyd at 2 oedolyn a 3 phlentyn - £18.00
Tocyn Diwrnod TrawsCymru (bydd yn ddilys ar wasanaethau 43/X43)
Oedolyn - £11
Plentyn - £7.30
Amodau ‘Tocyn Crwydro Rheilffyrdd y Cymoedd’ yn newid
O 1 Ebrill 2019 ymlaen, dylech nodi y bydd ‘Tocyn Crwydro Rheilffyrdd y Cymoedd’ yn cynnwys y cyfyngiad canlynol yn y bore:
O ddydd Llun i ddydd Gwener, ni fydd y tocyn yn ddilys ar drenau cyn 09.14
- Mae ‘Tocyn Crwydro Rheilffyrdd y Cymoedd’ Stagecoach a brynir ar fws yn dal yn ddilys ar rwydwaith y Cymoedd: rhwng Caerdydd, Penarth, y Barri a Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, Treherbert, Merthyr Tudful, Rhymni a Glynebwy.
- NID yw’n ddilys ar drenau i/o Gasnewydd nac ar y rheilffordd drwy Gwmbrân neu’r Fenni.
- Ni fydd y prisiau ar fysiau’n newid a byddant yn parhau’n £11.00 i oedolyn ac yn £5.50 i blentyn.
- Gellir prynu a defnyddio’r tocynnau ar unrhyw adeg o unrhyw ddiwrnod er mwyn teithio ar y bws.
Mae Tocyn Crwydro Diwrnod Trafnidiaeth Cymru ar gyfer TRENAU yng Nghaerdydd a’r Cymoedd yn dal yn ddilys ar bob un o fysiau Stagecoach yn Ne Cymru (mae’n ddilys yn yr un ardaloedd â’r tocyn diwrnod ar gyfer pob parth (‘All Zones’) ond nid yw’n ddilys i’r gogledd o Felin-fach/Aberllynfi ym Mhowys) a’r prisiau ar hyn o bryd yw £13.00 i oedolyn a £6.50 i blentyn.
Nid oes fersiwn “fyngherdynteithio” o’r tocyn bws a thrên ar gael i bobl ifanc rhwng 16 a than 22 oed.