Problemau teithio

Dylech nodi ein bod wedi rhyddhau fersiwn newydd o’n ap ar gyfer dyfeisiau Android er mwyn helpu i wella eich profiad fel defnyddwyr.

Rydym yn gwybod bod rhai cwsmeriaid yn cael problemau technegol gyda’r ap ar gyfer dyfeisiau Android. Dylech ofalu bod y fersiwn ddiweddaraf o’n ap wedi’i gosod ar eich dyfais. Os nad yw eich apiau wedi’u gosod i lawrlwytho diweddariadau yn awtomatig, mae’n bosibl y bydd angen i chi ddileu ap Traveline Cymru a’i ailosod er mwyn cael y fersiwn ddiweddaraf.

Os byddwch yn dal i gael problemau, dylech anfon e-bost i feedback@traveline.cymru gan nodi’r manylion canlynol:

  • Gwneuthuriad a model eich ffôn Android
  • Y fersiwn o’r ap sydd wedi’i gosod gennych ar hyn o bryd (gallwch weld hynny yn eich gosodiadau)
  • Manylion y problemau yr ydych yn eu cael, gan gynnwys y lleoliadau yr ydych yn ceisio chwilio amdanynt.

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ac yn gobeithio datrys y problemau hyn cyn gynted ag sy’n bosibl.

Yn ôl