Problemau teithio

Cofiwch ein bod ar hyn o bryd yn disgwyl cadarnhad ynghylch yr amserlen newydd ar gyfer gwasanaeth 43/X43 Stagecoach yn Ne Cymru.

Roedd disgwyl i’r amserlen newydd ddechrau ar 12/5/2019, ond rydym yn ceisio cael cadarnhad ynghylch problem amserlennu sydd wedi codi.

Cyn gynted ag y byddwn wedi cael y wybodaeth honno, bydd fersiwn dros dro o’r amserlen newydd i’w gweld ar y dudalen hon. Yna, byddwn yn rhoi’r amserlen newydd ar ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni cyn gynted ag sy’n bosibl.

Cofiwch ddod yn ôl i’r dudalen hon a mynd i wefan Stagecoach yn Ne Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Yn ôl