Problemau teithio

Tanat Valley Coaches- 15/5/2019 @ 16:30

Mae pibell o bwys sy’n cludo’r prif gyflenwad dŵr wedi byrstio yn Nhrefaldwyn, ar yr ochr ogleddol rhwng y B4386 Chirbury Road a chyffordd y B4385 (Station Road – ar gyfer Aber-miwl) a’r B4388 Forden Road. Bydd y ffordd ar gau tan ddydd Gwener.

Dyma’r dargyfeiriadau y cytunwyd arnynt:

Gwasanaeth 81: Y Drenewydd – Yr Ystog – Chirbury – Trefaldwyn – Caerhywel – Y Trallwng.

Ar ei ffordd i’r Trallwng, wrth adael Trefaldwyn yn ôl yr arfer, bydd y gwasanaeth yn dychwelyd i Chirbury ac yna’n mynd ar hyd yr A490 yn syth i Goedybrenin. Ni fydd yn gwasanaethu Caerhywel na phentref Ffordun. Bydd y gwasanaeth yn dilyn yr un llwybr wrth ddychwelyd o’r Trallwng.

Gwasanaeth T12: Y Drenewydd – Aber-miwl – Trefaldwyn – Coedybrenin – Y Trallwng.

Ar ôl Aber-miwl, bydd y gwasanaeth yn cael ei ddargyfeirio drwy Gaerhywel a phentref Ffordun i Goedybrenin ac yna’n dilyn ei lwybr arferol. Ni fydd yn gwasanaethu tref Trefaldwyn.

Yn ôl