Problemau teithio

Bae Caerdydd fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni, sef un o wyliau ieuenctid teithiol mwyaf Ewrop, a gynhelir rhwng 27/5/2019 a 1/6/2019. Nodwch y bydd gwasanaethau’n cael eu dargyfeirio yn ystod y cyfnod dan sylw. Bydd gwaith paratoi yn ystod y diwrnodau cyn y digwyddiad a gwaith clirio wedyn yn effeithio ar rai gwasanaethau hefyd.

 

Bws Caerdydd*

*Nodwch hefyd y bydd Bws Caerdydd yn gweithredu amserlenni dydd Sul ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc (27 Mai) ac y bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio yng nghanol y ddinas o 5pm ymlaen. Y rheswm am hynny yw bod y Spice Girls yn perfformio yn Stadiwm Principality.

O 23:59 ar 25/5/2019 tan 23:59 ar 2/6/2019:

Baycar (gwasanaeth 6)

  • O amser y bws cyntaf ddydd Sadwrn 25 Mai tan 23:59 ddydd Sul 2 Mehefin, bydd bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Neuadd y Sir ar Heol Hemmingway. Yn anffodus, ni fydd yr arosfannau bysiau yn y Flourish ac wrth ymyl Canolfan y Mileniwm yn cael eu gwasanaethu.
  • I ddal y gwasanaeth Baycar i gyfeiriad canol y ddinas, ewch i’r arhosfan bysiau wrth ymyl Neuadd y Sir ar Heol Hemmingway.

Gwasanaeth 8

  • O amser y bws cyntaf ddydd Sadwrn 25 Mai tan 23:59 ddydd Sul 2 Mehefin, bydd yr arosfannau bysiau a fydd yn cael eu defnyddio’n cynnwys arhosfan Neuadd y Sir ar Heol Hemmingway ac arhosfan Cei’r Fôr-forwyn ar New George Street.
  • Ni fydd yr arosfannau bysiau wrth ymyl Canolfan y Mileniwm, Harbwr Scott a Chei Britannia yn cael eu gwasanaethu.  

Gwasanaeth 13

  • O amser y bws cyntaf ddydd Sadwrn 25 Mai tan 23:59 ddydd Sul 2 Mehefin, bydd bysiau i gyfeiriad Bae Caerdydd yn aros wrth ymyl Neuadd y Sir ar Heol Hemmingway. 
  • Bydd bysiau’n ôl i gyfeiriad canol y ddinas a’r Ddrôp yn defnyddio arhosfan Cei’r Fôr-forwyn (ar gyfer gwasanaethau i gyfeiriad canol y ddinas) wrth ymyl The Packet Hotel ar New George Street, a’r arosfannau bysiau sydd ar hyd Stryd Bute.   

 

First Cymru

O 27/5/2019 tan 1/6/2019

O ganlyniad, bydd yn rhaid i wasanaethau X2 ac X10 gael eu dargyfeirio oddi ar y ffordd ymadael yn Lecwydd, a byddant yn teithio’n syth i Hadfield Road. Yna, ar ben draw Hadfield Road, byddant yn troi i’r chwith ac yn dilyn Heol Penarth nes cyrraedd tu cefn Gorsaf Drenau Caerdydd.

 

 

Stagecoach South Wales

Rhwng 20:00 ddydd Gwener 24 Mai ac 18:00 ddydd Sul 2 Mehefin, ni fydd modd defnyddio’r arhosfan bysiau y tu allan i Ganolfan y Mileniwm. Bydd gwasanaethau Stagecoach yn defnyddio’r arhosfan bysiau gyferbyn â Neuadd y Sir – y tu allan i westy’r Travelodge ar Heol Hemmingway.

 

 

NAT

 

Yn ôl