Problemau teithio

Nodwch nad yw’r arhosfan bysiau dan gyffordd yr A40 ar gyfer Groesffordd yn arhosfan bysiau swyddogol. Gellir gofyn i fysiau sy’n teithio i gyfeiriad y dwyrain stopio yma drwy roi arwydd i’r gyrrwr, ond ni ellir gofyn i fysiau sy’n teithio i gyfeiriad y gorllewin wneud hynny.

Dim ond gwybodaeth gyffredinol sydd i’w gweld ar yr arhosfan bysiau, ac nid yw’n arhosfan ac iddo amser penodol ar lwybr gwasanaeth 43 o Aberhonddu i’r Fenni.

Bydd Cyngor Sir Powys yn cael gwared â’r wybodaeth dan sylw yn y dyfodol agos er mwyn osgoi unrhyw ddryswch.

Yn ôl