Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

We hope to have this fare information on our website as soon as possible. We apologise for any inconvenience caused by this.

O ddydd Sul 16 Mehefin ymlaen, bydd y rhan fwyaf o brisiau tocynnau unffordd a dwyffordd yn newid ar wasanaethau Stagecoach yn Ne Cymru (gan gynnwys gwasanaeth T14 o Gaerdydd i Henffordd a gwasanaeth T4 i’r de o Aberhonddu). Bydd y pris uchaf posibl ar gyfer tocynnau unffordd neu ddwyffordd i bob dosbarth o deithwyr yn parhau’r un fath.

Bydd y rhan fwyaf o docynnau unffordd i oedolion, sy’n costio rhwng £1.40 a £5.00, yn newid 10c. Bydd y rhan fwyaf o docynnau unffordd sy’n costio dros £5.00 yn newid 20c.

Bydd prisiau’r rhan fwyaf o docynnau dwyffordd i oedolion, tocynnau i blant a thocynnau i bobl ifanc (16-21 oed) sy’n ddeiliaid fyngherdynteithio yn newid hefyd, yn yr un modd.

Ni fydd prisiau tocynnau ‘Dayrider’ a ‘Megarider’ (gan gynnwys tocynnau pob parth (‘All Zones’) a thocynnau rhwydwaith (‘Network Rider’)), tocynnau 4 wythnos a thocynnau ‘Xtra’ yn newid ar y dyddiad hwn.

Yn ôl