Problemau teithio

Bws Caerdydd

O ganlyniad i waith sy’n cael ei gyflawni gan gwmni nwy Wales & West, bydd y rhan o Pantbach Road rhwng y gyffordd â Tŷ-Wern Road a Beulah Road ar gau O GYFEIRIAD CANOL Y DDINAS (i gyfeiriad y gogledd) rhwng amser y bws cyntaf ddydd Llun 22 Gorffennaf ac amser y bws olaf ddydd Sul 1 Medi.

Bydd gwasanaeth 21 yn cael ei ddargyfeirio wrth gyffordd Pantbach Road/Tŷ-Wern Road, bydd yn teithio ar hyd Tŷ-Wern Road, Caerphilly Road a Beulah Road a bydd yn dychwelyd i’w lwybr arferol yn Heol-y-Deri/siopau Rhiwbeina.

Ni fydd yr arhosfan bysiau ar Pantbach Road ger Tŷ’n-y-Cae Grove yn cael ei wasanaethu, ond bydd arhosfan dros dro hanner ffordd ar hyd Tŷ-Wern Road a dau arhosfan ar Beulah Road. Bydd bysiau’n aros wrth yr arosfannau sydd ar Caerphilly Road hefyd.

Bydd Pantbach Road i gyfeiriad canol y ddinas (i gyfeiriad y de) yn parhau ar agor, felly bydd gwasanaeth 23 yn dilyn ei lwybr arferol.

 

Yn ôl