Bydd ffordd ar gau rhwng Wrecsam a’r Orsedd, a fydd yn golygu bod angen i wasanaeth 1 gael ei ddargyfeirio yn ystod y cyfnodau canlynol:
- O 8pm nos Wener 28 Mehefin tan 6am ddydd Llun 1 Gorffennaf 2019
- O 8pm nos Wener 5 Gorffennaf tan 6am ddydd Llun 8 Gorffennaf 2019
Tra bydd y ffordd ar gau, ni fydd bysiau’n gallu gwasanaethu Garden Village, Acton Smithy, Gresffordd a Marford, a byddant yn dilyn y llwybr canlynol:
Bysiau o Wrecsam i Gaer
Bydd y bysiau hyn yn teithio ar hyd Ffordd yr Wyddgrug (lle mae’r cae pêl-droed) a’r A483 hyd at yr Orsedd, cyn ymuno â’u llwybr arferol i Gaer.
Bysiau o Gaer i Wrecsam
Bydd y bysiau hyn yn dilyn eu llwybr arferol hyd at yr Orsedd, ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd yr A483 a Ffordd yr Wyddgrug (lle mae’r cae pêl-droed).