Problemau teithio

Tanat Valley Coaches

Oherwydd bod Jehu Rd yn y Trallwng ar gau, bydd gwasanaethau bws sy’n gwasanaethu’r Trallwng yn cael eu dargyfeirio. Byddant i gyd yn defnyddio’r arhosfan bysiau sydd ar ochr y Stryd Fawr lle mae’r traffig yn mynd i fyny’r allt ac sydd ychydig ymhellach i fyny nag Andrew’s Fish Bar. 

Bydd y ffordd yn cael ei chau fore dydd Gwener (28/6) ac, yn ôl Craig Gillett o Gyngor Sir Powys, dylai fod ar gau am oddeutu pythefnos. Wedi dweud hynny, gallai’r ffordd fod ar gau am dair wythnos fel y caniateir gan y gorchymyn cau, os bydd unrhyw broblemau’n codi.  

Bydd y dargyfeiriad yn achosi rhywfaint o oedi i wasanaeth T12 i gyfeiriad y Drenewydd. 

Yn ôl