Bydd y Stryd Fawr yn Llantrisant ar gau rhwng y gyffordd â Castle Street a Roam Road i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am bellter o oddeutu 80 metr.
Disgwylir i’r ffordd fod ar gau rhwng 08:00 ac 18:00 ar 21 Gorffennaf 2019 neu nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.
Rhaid cau’r ffordd er mwyn cyflawni gwaith arni neu wrth ei hymyl.
Llwybr amgen – o ochr ogleddol y rhan o’r ffordd a fydd ar gau, ewch ar hyd Commercial Street (y B4595), y Stryd Fawr (y B4595), Heol-y-Sarn, Ely Valley Road (yr A4119) a Talbot Road.
Os ydych yn gyrru i’r cyfeiriad arall, dilynwch y cyfarwyddiadau uchod am yn ôl. Sicrheir mynediad ar gyfer cerddwyr a cherbydau’r gwasanaethau brys.