Problemau teithio

Nodwch y bydd Willowdene Way a Sandbrook Drive ar gau dros dro yn ystod gwyliau’r haf. Diben hynny yw cynorthwyo Wales and West i uwchraddio’r pibellau nwy sydd yn yr ardal leol.

Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau mewn 2 gam fel y nodir isod:

Cam 1: Cau Sandbrook Road o 7:00 ar 20/07/2019 tan 18:00 ar 02/08/2019.

Cam 2: Cau Willowdene Way o 7:00 ar 27/07/2019 tan 18:00 ar 30/08/2019.

 

Bws Caerdydd

O ganlyniad i waith sy’n cael ei gyflawni gan gwmni nwy Wales & West, bydd Sandbrook Road yn Llaneirwg ar gau o ddydd Sadwrn 20 Gorffennaf i ddydd Gwener 2 Awst, gan gynnwys y diwrnod hwnnw. Yn ystod y cyfnod dan sylw, bydd teithiau gwasanaeth 45B yn y prynhawn i Barc Busnes Llaneirwg yn cael eu dargyfeirio ar hyd Willowbrook Drive a Willowdene Way.

Ni fydd yr arhosfan bysiau ar Sandbrook Road yn cael ei wasanaethu. Dylech ddefnyddio arhosfan bysiau Ysgol Willowbrook yn lle hynny.

 

NAT

Bydd gwasanaeth X5 yn cael ei ddargyfeirio yn ystod y cyfnod dan sylw. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

 

Yn ôl