Problemau teithio

O 22/7/2019 tan 17/8/2019, bydd yr A4119 Llantrisant Road ar gau i’r ddau gyfeiriad o’r gyffordd yn Heol Isaf i’r gyffordd â Cardiff Road.

Caiff y ffordd ei chau er mwyn cyflawni gwaith cynnal a chadw sy’n ymwneud â gosod cwlfer newydd yn lle hen un a rhoi wyneb newydd ar y ffordd wrth ymyl datblygiad Persimmon.

Bydd y contractwr yn cyflawni’r gwaith rhwng 8am a 10pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 9am a 10pm ar ddydd Sul.

Ni fydd y ffordd ar gau am fwy na thair wythnos.

 

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd gwasanaethau 122 a 124 yn dilyn amserlenni dros dro am hyd at 3 wythnos. Gellir gweld yr amserlenni hynny yma.

Bydd gwasanaeth 122 yn cael ei ddargyfeirio ar hyd y draffordd ac ni fydd yn gwasanaethu’r A4119 Llantrisant Road rhwng Castell Mynach a Heol Isaf.

Bydd gwasanaeth 124 i/o Greigiau yn cael ei ddargyfeirio ar hyd cefnffordd yr A470 ac ni fydd yn gwasanaethu Radur na Llandaf.                                                                             

Yn ôl