Bydd prisiau Tocynnau Diwrnod ac Wythnos Stagecoach yn Ne Cymru ar gyfer y Rhwydwaith yn newid o 5 Awst 2019 ymlaen. Gallwch weld prisiau newydd y tocynnau hyn isod:
Prisiau ein Tocynnau DIWRNOD AR GYFER Y RHWYDWAITH y gellir eu prynu ar y bws:
- Oedolyn £9.00
- Tocyn Teithio Rhatach (h.y. i’r sawl sydd â cherdyn teithio rhatach Lloegr/Yr Alban neu’r sawl a all brofi eu bod dros 60 oed e.e. drwy ddangos eu pasport) £6.00
- Plentyn (dan 16 oed) £6.00
- Deiliad fyngherdynteithio (rhwng 16 a than 22 oed) £6.00
- Teulu neu Grŵp (1 oedolyn a hyd at 4 plentyn neu 2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn) £18.00
Prisiau ein Tocynnau WYTHNOS AR GYFER Y RHWYDWAITH y gellir eu prynu ar y bws:
- Oedolyn £28.00
- Tocyn Teithio Rhatach (h.y. i’r sawl sydd â cherdyn teithio rhatach Lloegr/Yr Alban neu’r sawl a all brofi eu bod dros 60 oed e.e. drwy ddangos eu pasport) £18.60
- Plentyn (dan 16 oed) £18.60
- Deiliad fyngherdynteithio (rhwng 16 a than 22 oed) £18.60
Y gweithredwyr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Tocynnau Rhwydwaith:- Mae pob un ohonynt yn gallu rhoi a derbyn Tocynnau Diwrnod ac Wythnos. Mae’n bosibl y bydd prisiau tocynnau’n amrywio rhwng y gweithredwyr. Nid yw rhai ohonynt yn gallu rhoi Tocynnau Teithio Rhatach ond maent yn fodlon eu derbyn |
|
Bws Caerdydd |
Newport Bus |
Connect 2 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili |
Cyngor Sir Fynwy |
Easyway o Ben-y-bont ar Ogwr |
Peyton Travel o Ben-y-bont ar Ogwr |
Edwards Coaches o Lantrisant |
Phil Anslow Coaches o’r Darren Widdon |
Globe Coaches o Aberdâr |
Rees Travel o’r Fenni |
First Cymru Yn ddilys dim ond ar fysiau First Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn siroedd Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr (DDIM yn ddilys ar wasanaeth T1C TrawsCymru Caerdydd – Aberystwyth nac ar wasanaeth X10 Caerdydd – M4 – Abertawe) (DDIM yn ddilys ar wasanaeth X7 First West of England Casnewydd – Cas-gwent – Bryste) |
|
Harris Coaches o Goed-duon |
Thomas o’r Rhondda |
Henley's o Abertyleri |
Watts Coaches o Dresimwn |
N. A. T. Group (Comfort Del Gro) Yn ddilys ar fysiau NAT gan gynnwys sir Pen-y-bont ar Ogwr a de-ddwyrain Cymru, DDIM yn ddilys i’r gorllewin o sir Pen-y-bont ar Ogwr nac ym Mhowys. (DDIM yn ddilys ar wasanaeth T6 TrawsCymru Abertawe – Aberhonddu nac ar wasanaeth T9 TrawsCymru Caerdydd – Maes Awyr Caerdydd) |
|
Stagecoach yn Ne Cymru Yn ddilys ar bob un o fysiau Stagecoach, rhan o wasanaeth T4 TrawsCymru, pob rhan o wasanaeth T14 TrawsCymru a gwasanaeth 43/X43 Cyswllt TrawsCymru (DDIM yn ddilys yn y canolbarth ar wasanaeth T4 TrawsCymru ym Mhowys i’r gogledd o Felin-fach/Aberllynfi) |