Problemau teithio

Bydd prisiau Tocynnau Diwrnod ac Wythnos Stagecoach yn Ne Cymru ar gyfer y Rhwydwaith yn newid o 5 Awst 2019 ymlaen. Gallwch weld prisiau newydd y tocynnau hyn isod:

 

Prisiau ein Tocynnau DIWRNOD AR GYFER Y RHWYDWAITH y gellir eu prynu ar y bws:

  • Oedolyn £9.00
  • Tocyn Teithio Rhatach (h.y. i’r sawl sydd â cherdyn teithio rhatach Lloegr/Yr Alban neu’r sawl a all brofi eu bod dros 60 oed e.e. drwy ddangos eu pasport) £6.00
  • Plentyn (dan 16 oed) £6.00
  • Deiliad fyngherdynteithio (rhwng 16 a than 22 oed) £6.00
  • Teulu neu Grŵp (1 oedolyn a hyd at 4 plentyn neu 2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn) £18.00

Prisiau ein Tocynnau WYTHNOS AR GYFER Y RHWYDWAITH y gellir eu prynu ar y bws:

  • Oedolyn £28.00
  • Tocyn Teithio Rhatach (h.y. i’r sawl sydd â cherdyn teithio rhatach Lloegr/Yr Alban neu’r sawl a all brofi eu bod dros 60 oed e.e. drwy ddangos eu pasport) £18.60
  • Plentyn (dan 16 oed) £18.60
  • Deiliad fyngherdynteithio (rhwng 16 a than 22 oed) £18.60

Y gweithredwyr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Tocynnau Rhwydwaith:-

Mae pob un ohonynt yn gallu rhoi a derbyn Tocynnau Diwrnod ac Wythnos. Mae’n bosibl y bydd prisiau tocynnau’n amrywio rhwng y gweithredwyr. Nid yw rhai ohonynt yn gallu rhoi Tocynnau Teithio Rhatach ond maent yn fodlon eu derbyn

Bws Caerdydd

Newport Bus

Connect 2 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cyngor Sir Fynwy

Easyway o Ben-y-bont ar Ogwr

Peyton Travel o Ben-y-bont ar Ogwr

Edwards Coaches o Lantrisant

Phil Anslow Coaches o’r Darren Widdon

Globe Coaches o Aberdâr

Rees Travel o’r Fenni

First Cymru

Yn ddilys dim ond ar fysiau First Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn siroedd Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr

(DDIM yn ddilys ar wasanaeth T1C TrawsCymru Caerdydd – Aberystwyth nac ar wasanaeth X10 Caerdydd – M4 – Abertawe)

(DDIM yn ddilys ar wasanaeth X7 First West of England Casnewydd – Cas-gwent – Bryste)

Harris Coaches o Goed-duon

Thomas o’r Rhondda

Henley's o Abertyleri

Watts Coaches o Dresimwn

N. A. T. Group (Comfort Del Gro)

Yn ddilys ar fysiau NAT gan gynnwys sir Pen-y-bont ar Ogwr a de-ddwyrain Cymru, DDIM yn ddilys i’r gorllewin o sir Pen-y-bont ar Ogwr nac ym Mhowys. (DDIM yn ddilys ar wasanaeth T6 TrawsCymru Abertawe – Aberhonddu nac ar wasanaeth T9 TrawsCymru Caerdydd – Maes Awyr Caerdydd)

Stagecoach yn Ne Cymru

Yn ddilys ar bob un o fysiau Stagecoach, rhan o wasanaeth T4 TrawsCymru, pob rhan o wasanaeth T14 TrawsCymru a gwasanaeth 43/X43 Cyswllt TrawsCymru (DDIM yn ddilys yn y canolbarth ar wasanaeth T4 TrawsCymru ym Mhowys i’r gogledd o Felin-fach/Aberllynfi)

Yn ôl