Problemau teithio

O 21 Gorffennaf ymlaen, ni fydd ‘Tocyn Crwydro Rheilffyrdd y Cymoedd’ yn ddilys ar drenau cyn 9.30am o ddydd Llun i ddydd Gwener.

  • Mae ‘Tocyn Crwydro Rheilffyrdd y Cymoedd’ Stagecoach a brynir ar fws yn dal yn ddilys ar rwydwaith y Cymoedd: rhwng Caerdydd, Penarth, y Barri a Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, Treherbert, Merthyr Tudful, Rhymni a Glynebwy.
  • NID yw’n ddilys ar drenau i/o Gasnewydd nac ar y rheilffordd drwy Gwmbrân neu’r Fenni.
  • Ni fydd y prisiau ar fysiau’n newid a byddant yn parhau’n £11.00 i oedolyn ac yn £5.50 i blentyn*.
  • Gellir prynu a defnyddio’r tocynnau ar unrhyw adeg o unrhyw ddiwrnod er mwyn teithio ar y bws. 

Mae Tocyn Crwydro Diwrnod Trafnidiaeth Cymru ar gyfer TRENAU yng Nghaerdydd a’r Cymoedd yn dal yn ddilys ar bob un o fysiau Stagecoach yn Ne Cymru (mae’n ddilys yn yr un ardaloedd â’r tocyn diwrnod ar gyfer pob parth (‘All Zones’) ond nid yw’n ddilys i’r gogledd o Felin-fach/Aberllynfi ym Mhowys) a’r prisiau ar hyn o bryd yw £13.00 i oedolyn a £6.50 i blentyn. Erbyn hyn, ceir pris o £8.50 i oedolion sydd â cherdyn rheilffordd.

*Nid oes fersiwn “fyngherdynteithio” o’r tocyn bws a thrên ar gael i bobl ifanc rhwng 16 a than 22 oed.  

Yn ôl