Problemau teithio

O ddydd Sadwrn 3 Awst tan ddydd Sadwrn 10 Awst, cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Bydd gwasanaethau 19, X19 a 70 Llew Jones Coaches yn teithio’n amlach er mwyn helpu ymwelwyr i deithio’n hwylus i’r digwyddiad. Bydd y gwasanaethau hyn yn gollwng ac yn casglu teithwyr yn agos i brif fynedfa’r Eisteddfod Genedlaethol.  

Bydd gwasanaethau 19 ac X19 estynedig yn teithio’n rheolaidd rhwng Betws-y-coed, y Maes a Llanrwst drwy gydol y dydd.

Mae’r cwmni hefyd wedi trefnu trafnidiaeth o lawer o wahanol ardaloedd yn y gogledd. Yn eu plith y mae pum gwasanaeth y dydd (heblaw dydd Sul 4 Awst) o Ddolgellau, Y Waun, Wrecsam, Graigfechan a Rhuthun.

Cliciwch yma i weld yr amserlenni ar gyfer y gwasanaethau hyn.

 

Yn ôl