Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Rhwng 5 Awst a 9 Awst (gan gynnwys y dyddiadau hynny) bydd y B4348 ar gau yn Peterchurch. Bydd yr un peth yn digwydd yn Dorstone rhwng 12 Awst a 15 Awst (gan gynnwys y dyddiadau hynny). Yn ystod y ddau gyfnod dan sylw, ni fydd Stagecoach yn Ne Cymru yn gallu gwasanaethu Dorstone, Peterchurch, Kingstone na Clehonger.

Bydd gwasanaeth T14 yn teithio rhwng y Gelli Gandryll a Henffordd ac yn ôl ar yr A438. Ar ei ffordd i mewn i Henffordd, ni fydd y gwasanaeth yn gallu gwasanaethu Bridge Street. Ar ei ffordd allan o Henffordd, bydd y gwasanaeth yn gwasanaethu Broad Street cyn mynd ar hyd yr A438.

Mae’n debygol y bydd yna oedi o ganlyniad i’r uchod.

Bydd gwasanaeth arferol yn gweithredu ddydd Sadwrn 13 Awst.

Yn ôl