Rydym wedi sylwi ar broblem gyda rhai o’r mapiau amserlenni sydd ar ein system. Mae’n ymddangos bod y broblem yn effeithio ar wasanaethau cylchol a’i bod yn peri i linellau syth anghywir ymddangos ar hap ar y mapiau o lwybrau.
Nid yw’r broblem hon yn effeithio ar ein Cynlluniwr Taith nac ar unrhyw un o’n gwasanaethau eraill.
Mae ein tîm technegol yn gweithio’n galed i ddatrys y broblem. Fodd bynnag, disgwylir y bydd yn cymryd wythnos i’r mapiau ymddangos fel y dylent.
Hoffem ymddiheuro’n ddiffuant am unrhyw anghyfleustra. Tra caiff y mapiau eu cywiro, rydym yn awgrymu na ddylai cwsmeriaid gyfeirio at y mapiau o lwybrau cylchol, er mwyn osgoi unrhyw ddryswch.
Diolch am eich amynedd.