Problemau teithio

Tanat Valley Coaches

Bydd y B4393, Llandysilio ar gau dros dro o 12/8/2019 tan 16/8/2019 er mwyn rhoi wyneb newydd ar y ffordd.

Ni fydd gwasanaeth 72 yn gallu gweithredu ar hyd y ffordd gyfan o Bont Llansanffraid-ym-Mechain i Landysilio nes bydd y gwaith wedi’i gwblhau. Ni fyddwn yn gwasanaethu Maes Carafanau Vyrnwy tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddargyfeirio trwy Lynclys ac yna’n dechrau o Lanymynech, Tan y Foel tua 5 munud yn hwyrach na’r arfer.

Ni fydd y gwasanaeth hwn yn codi teithwyr gyferbyn â’r Bradford Arms nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.

Yn ôl