Problemau teithio

Nodwch y bydd llawer o weithredwyr yn darparu gwasanaeth gwahanol i’r arfer Ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Os bydd eich gwasanaeth yn rhedeg, bydd tab ‘Gwyliau Banc’ ar dop tudalen eich amserlen lle gallwch weld i ba raddau y mae’r gwasanaeth ar gael ar y diwrnod hwnnw. Bydd y gwasanaeth yn dilyn amserlen dydd Sul fel rheol, ond nid yw hynny’n wir bob tro. Felly, dylech ddarllen y wybodaeth sydd dan y tab ‘Gwyliau Banc’ yn ofalus cyn teithio.

At hynny, bydd ein Cynlluniwr Taith yn adlewyrchu’r gwasanaethau sy’n gweithredu Ddydd Llun Gŵyl y Banc. Sicrhewch eich bod yn dewis y dyddiad cywir (26/08/2019) wrth gynllunio eich taith ymlaen llaw, fel eich bod yn gweld y wybodaeth gywir.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach mae croeso i chi ffonio ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 00 00, a bydd un o’n cynghorwyr yn gallu eich helpu.

Gobeithio y cewch chi benwythnos Gŵyl y Banc a fydd wrth eich bodd!

Yn ôl