Problemau teithio

O ddydd Sul 1 Medi 2019 ymlaen bydd rhai gwasanaethau bws yn Aberdâr, Cymoedd y Rhondda a Chaerffili yn cael eu newid er mwyn gwella cysylltiadau rhwng bysiau a gwella amseroedd teithiau.

Rydym yn gobeithio y bydd yr amserlenni hyn ar gael ar ein gwefan yn fuan. Yn y cyfamser, gallwch weld yr amserlenni newydd drwy glicio ar y dolenni cyswllt isod.

Gwasanaethau

Newidiadau o 1 Medi ymlaen

Gwasanaeth 1

Mae teithiau wedi’u hailamseru er mwyn gwella cysylltiadau’r gwasanaeth â llwybrau eraill.

Gwasanaeth 2

Mae teithiau wedi’u hailamseru er mwyn gwella cysylltiadau’r gwasanaeth â llwybrau eraill.

Gwasanaeth 6

Mae’n cynnwys taith ychwanegol yn y bore a gyda’r nos.

 

Ni fydd gwasanaeth 6 yn gwasanaethu ystâd Tre-Ifor mwyach. Dylech ddefnyddio’r arosfannau bysiau ar Merthyr Road.

Gwasanaeth 7

Gwasanaeth 8

Gwasanaeth 9

Mae teithiau wedi’u hailamseru er mwyn gwella cysylltiadau’r gwasanaethau â llwybrau eraill.

 

Bydd gwasanaeth 8 yn awr yn cysylltu â gwasanaeth X7 First Bus yng Nglyn-nedd, ar gyfer y sawl sydd am fynd yn eu blaen i Abertawe a Chanolfan Iechyd Cwm Nedd.

 

Gyda’r nos, bydd rhai o deithiau gwasanaeth 9 yn mynd i Ferthyr Tudful.

Gwasanaeth 13A/C

Gwasanaeth 113

Mae gwasanaeth 13 yn cymryd lle gwasanaeth 13A/C. Bydd gwasanaeth 13 yn dilyn llwybr y gwasanaeth 13A presennol ond ni fydd yn gwasanaethu Pant Farm mwyach. Bydd Pant Farm yn cael ei wasanaethu gan wasanaeth 113.

 

Bydd y gwasanaeth dydd Sul yn dod i ben.

Gwasanaeth 11A/C

Mae teithiau wedi’u hailamseru er mwyn gwella cysylltiadau’r gwasanaeth â llwybrau eraill.

 

Ni fydd gwasanaeth 11C yn gwasanaethu Bwllfa Dare mwyach a bydd yn mynd mor bell â Chwmdâr.

 

Bydd y gwasanaeth dydd Sul yn dod i ben.

Gwasanaeth 60/A

Mae teithiau wedi’u hailamseru er mwyn gwella cysylltiadau’r gwasanaeth â llwybrau eraill.

 

Bydd teithiau ychwanegol ar gael yn gynnar yn y bore.

 

Yn ôl