Bydd First Cymru yn newid rhai o’i wasanaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Maesteg o ddydd Sul 1 Medi 2019 ymlaen.
Rydym yn gobeithio y bydd yr amserlenni hyn ar gael ar ein gwefan yn fuan. Yn y cyfamser, gallwch weld yr amserlenni newydd drwy glicio ar y dolenni cyswllt isod.
65 (Pen-y-bont ar Ogwr i Donysguboriau): Bydd y llwybr yn cael ei newid fel ei fod yn mynd drwy’r Felin-wyllt.
67 (Pen-y-bont ar Ogwr i Sarn drwy Ben-y-fai): Bydd y gwasanaeth hwn yn dod i ben.
70/71 (Cymer i Ben-y-bont ar Ogwr drwy Gaerau a Maesteg): Bydd y gwasanaeth yn parhau i weithredu bob 15 munud rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerau. Bydd gwasanaethau’n dal i fynd mor bell â Chymer bob 30 munud er mwyn cynnal cysylltiadau â gwasanaeth 83 i Lyncorrwg, Blaengwynfi a Phort Talbot.
73 (Pen-y-bont ar Ogwr i Flaengarw drwy Fetws a Phontycymer): Bydd gwasanaeth 22:40 o Ben-y-bont ar Ogwr i Flaengarw a gwasanaeth 23:35 o Flaengarw i Fetws yn gweithredu ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn yn unig. O ddydd Llun i ddydd Iau, bydd y gwasanaeth olaf yn gadael am 21:40 o Ben-y-bont ar Ogwr i Flaengarw ac am 22:35 o Flaengarw i Ben-y-bont ar Ogwr.
74/75 (Pen-y-bont ar Ogwr i Nant-y-moel drwy Sarn): Bydd gwasanaeth 74 yn gweithredu bob 30 munud i Nant-y-moel, ac ar y cyd â gwasanaeth 76 bydd yn darparu gwasanaeth cyson bob 15 munud rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Sarn. Bydd gwasanaeth 75 yn dod i ben.
76 (Pen-y-bont ar Ogwr i Fetws drwy Sarn ac Ynysawdre): Er mwyn cynnig teithiau cyflymach a gwasanaeth cyson bob 15 munud rhwng Sarn a Phen-y-bont ar Ogwr ar y cyd â gwasanaeth 74, ni fydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu mwyach drwy’r Felin-wyllt a Vale View. Bydd gwasanaeth 65 yn cynnig dull o deithio i’r Felin-wyllt.
85 (Sandfields i Borthcawl drwy Bort Talbot): Bydd y gwasanaeth hwn yn dod i ben.
S56 (Pen-y-bont ar Ogwr i Ysgol Gyfun Brynteg drwy’r Felin-wyllt): Bydd y gwasanaeth hwn yn dod i ben.
X1 (Pen-y-bont ar Ogwr i Abertawe drwy’r Pîl a Phort Talbot): Bydd gwasanaeth 21:20 o Ben-y-bont ar Ogwr i Bort Talbot yn dod i ben. Bydd y gwasanaeth olaf o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe drwy Bort Talbot yn gadael am 20:00.
X2 (Porthcawl i Gaerdydd drwy Ben-y-bont ar Ogwr, y Bont-faen a Bae Caerdydd): Bydd y llwybr yn cael ei newid.
X3 (Maesteg i Abertawe drwy Fryn a Phort Talbot): Bydd teithiau ychwanegol yn y bore.
X4 (Pen-y-bont ar Ogwr i Gastell-nedd drwy’r Pîl a Phort Talbot): Bydd y llwybr yn cael ei newid fel ei fod yn mynd ar hyd Old Road ym Maglan.