Problemau teithio

Bydd rhai o fysiau gyda’r nos gwasanaeth T2 TrawsCymru nos Sadwrn 19 Hydref 2019 yn cael eu dargyfeirio rhwng Dolgellau a Machynlleth oherwydd bod ffordd ar gau. Bydd bysiau canlynol gwasanaeth T2 ar 19 Hydref 2019 yn teithio drwy Ddinas Mawddwy.

  • Bws 21.00 o Aberystwyth i Ddolgellau (sy’n gadael Machynlleth am 21.39); a
  • Bws 19.35 o Fangor i Fachynlleth (sy’n gadael Dolgellau am 21.36).

Ni fydd y bysiau hyn yn gwasanaethu’r arosfannau arferol ar y rhan o’r llwybr sydd rhwng Cross Foxes a Machynlleth.

Bydd tacsis yn cael eu darparu’n rhad ac am ddim yn Nolgellau a Machynlleth ar gyfer unrhyw deithwyr sydd am deithio i’r arosfannau arferol rhwng Cross Foxes a Machynlleth.

Gofynnir i unrhyw deithwyr y mae angen tacsi arnynt hysbysu’r gyrrwr pan fyddant yn dod ar y bws. Dim ond i’r ddau fws uchod y bydd y trefniant hwn yn berthnasol.

Hoffai TrawsCymru ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hynny ei achosi i chi.

 

Yn ôl