Problemau teithio

Newport Bus

Mae Newport Bus yn dymuno rhoi gwybod i’w gwsmeriaid y bydd nifer o wasanaethau’n cael eu dargyfeirio ar y dyddiad uchod er mwyn caniatáu i Orymdaith Sul y Cofio gael ei chynnal rhwng High Street a Clarence Place.

2A Gaer – Bydd bws 10:20 gwasanaeth 2A yn gweithredu fel gwasanaeth 2C ar hyd Cardiff Road i’r ddau gyfeiriad.

6E Alway – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu ar hyd Wharf Road ac yna Chepstow Road i’r ddau gyfeiriad. Bydd y dargyfeiriad hwn yn parhau ar waith nes y bydd bws 12.20 gwasanaeth 6E yn ymadael.

8A/8C Ringland – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth 8A/8C yn gweithredu ar hyd Wharf Road ac yna Chepstow Road i’r ddau gyfeiriad. Bydd y dargyfeiriad hwn yn parhau ar waith nes y bydd bws 12:50 gwasanaeth 8C yn ymadael. 

15/16 Betws – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth 15/16 yn ymuno â’r ffordd osgoi dan Gylchfan Old Green. Yr arhosfan cyntaf fydd yn cael ei wasanaethu ar ôl yr orsaf fysiau fydd arhosfan Wickes. Bydd y dargyfeiriad hwn yn parhau ar waith nes y bydd bws 12.40 gwasanaeth 15 yn ymadael.

19E Malpas – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth 19E yn ymuno â’r ffordd osgoi dan Gylchfan Old Green. Yr arhosfan cyntaf fydd yn cael ei wasanaethu ar ôl yr orsaf fysiau fydd arhosfan Wickes. Bydd y dargyfeiriad hwn yn parhau ar waith nes y bydd bws 12.50 gwasanaeth 19E yn ymadael.

27/28 Caerllion – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth 27/28 yn ymuno â’r ffordd osgoi dan Gylchfan Old Green, Heidenheim Drive ac yn gweithredu o gylchfan yr M4. Bydd y dargyfeiriad hwn yn parhau ar waith nes y bydd bws 12.30 gwasanaeth 28 yn ymadael.

42/43 Moorland Park – O amser y bws cyntaf ymlaen, bydd gwasanaeth 42/43 yn gweithredu ar hyd pont George Street ac yna Corporation Road. Bydd y dargyfeiriad hwn yn parhau ar waith nes y bydd bws 12.30 gwasanaeth 42 yn ymadael.

Ddydd Llun 11 Tachwedd 2019, gofynnir i staff Newport Bus barchu dwy funud o dawelwch am 11am. Mae’r staff hynny’n cynnwys gyrwyr, a bydd disgwyl iddynt dynnu i mewn yn ddiogel i’r arhosfan agosaf ar hyd eu llwybr er mwyn parchu’r cyfnod o dawelwch.

Yn ôl