Problemau teithio

Bydd rhan o Lwybr Cynon yn Hirwaun yn cael ei chau dros dro er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i wneud ymchwiliadau tir, yn rhan o’i chynllun yn y dyfodol i droi’r A465 yn ffordd ddeuol.

Bydd y gwaith hwn yn dechrau ar 4/11/2019 ac yn para oddeutu 3 wythnos. Bydd yn golygu cau Llwybr Cynon (llwybr rhif 46 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol) dros dro i’r dwyrain o Tramway yn Hirwaun – lle mae’r llwybr teithio llesol yn mynd o dan yr A465.

Mae llwybr amgen, diogel ar gyfer cerddwyr wedi’i nodi ar hyd Trenant, Hirwaun Road, Brecon Road, Cynon Terrace a Tramway – neu’r llwybr hwn am yn ôl. Nid oes llwybr amgen diogel addas ar gael ar gyfer y sawl sydd ar gefn beic neu geffyl.

Yn ôl