Problemau teithio

Newport Bus

Oherwydd gwaith ffordd yn Gaer Road, Casnewydd, ni fydd modd defnyddio’r ddau arhosfan bysiau wrth ymyl y ganolfan gymunedol rhwng 8:00 a 16:00 ddydd Mercher 13 Tachwedd, dydd Iau 14 Tachwedd a dydd Gwener 15 Tachwedd 2019.

Bydd hynny’n effeithio ar wasanaethau 2A, 2C, JF4, SJ13 a YGI1 (i gyfeiriad canol y ddinas yn unig). Bydd goleuadau traffig dros dro’n cael eu defnyddio hefyd, a allai achosi rhywfaint o oedi i wasanaethau 2A a 2C.

Cyngor Newport Bus i deithwyr yw y dylent ddarllen yr hysbysiadau sydd ar yr arosfannau bysiau i gael rhagor o fanylion a chael gwybodaeth am arosfannau amgen.

Yn ôl