Problemau teithio

Bydd amryw ffyrdd yn cael eu cau ledled Caerdydd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr er mwyn cynnau goleuadau Nadolig. Mae’r manylion i’w gweld isod:

Y Tyllgoed (i’w gadarnhau) ar 1 Rhagfyr rhwng 5.30pm a 9.00pm

 

Heol yr Orsaf Llanisien ar 4 Rhagfyr rhwng 15.45 a 19.30

O’r gyffordd â Tŷ Glas Road a Heol Hir i’r gyffordd â Fidlas Road

Bws Caerdydd

Bydd bysiau 28, 28A a 28B yn cael eu dargyfeirio ar hyd Tŷ Glas Avenue a Tŷ Glas Road rhwng Fidlas Road a Heol Hir (bydd rhai bysiau’n gwasanaethu Fishguard Road yn ôl yr arfer).

Ni fydd yr arosfannau bysiau sydd yn Station Road (NatWest) a Fidlas Road (Eglwys y Bedyddwyr a Station Road) yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau sydd yn Tŷ Glas Avenue neu Heol Hir yn lle hynny.

 

 

Heol yr Orsaf, Radur ar 6 Rhagfyr rhwng 17.00 a 21.00

Rhwng Heol Isaf a Windsor Crescent

 

Yn ôl