Problemau teithio

First Cymru

Disgwylir y bydd miloedd o ymwelwyr yn tyrru i ganol Abertawe o 16:00 ymlaen ddydd Sul 17 Tachwedd 2019 ar gyfer Gorymdaith y Nadolig a Chynnau Goleuadau’r Nadolig eleni.

Bydd yr orymdaith yn dechrau ar waelod Stryd y Gwynt am 17:00 ac yn mynd i gyfeiriad Sgwâr y Castell. Yna, bydd yn mynd i fyny’r Stryd Fawr, i lawr Stryd y Berllan ac ymlaen i Ffordd y Brenin.

 

Yn ystod y cyfnod dan sylw, bydd POB gwasanaeth yn cael ei ddargyfeirio fel a ganlyn:

Bydd gwasanaethau 4A, 12, 16, 25, 28, 36, 111, X6 ac X13 yn cael eu dargyfeirio ar hyd Heol New Cut a’r Strand i’r ddau gyfeiriad. 

Bydd gwasanaethau 2A, 3A ac 8 yn cael eu dargyfeirio ar hyd Heol Ystumllwynarth i gyfeiriad canol y ddinas a Gorsaf Fysiau Abertawe.

Bydd gwasanaethau 20 a 21A yn cael eu dargyfeirio ar hyd Stryd Nicholl ar gyfer teithiau o gyfeiriad canol y ddinas, ac ar hyd Stryd Henrietta ar gyfer teithiau i gyfeiriad canol y ddinas.

 

Dylai cwsmeriaid nodi ei bod yn debygol y bydd y dargyfeiriadau hyn, yn ogystal â thraffig a theithwyr ychwanegol, yn effeithio ar amserau’r bysiau.

Tra bydd y dargyfeiriadau ar waith, caiff cwsmeriaid eu cynghori i fynd ar y bysiau a dod oddi arnynt yng Ngorsaf Fysiau Abertawe, oherwydd ni fydd y bysiau’n gallu gwasanaethu’r arosfannau sydd ar hyd y rhannau hynny o’u llwybr y mae’r orymdaith yn effeithio arnynt.

Yn ôl