Problemau teithio

Bws Caerdydd

Ddydd Sul 17 Tachwedd, bydd Merthyr Road ar gau rhwng Old Church Road a St David's Road oherwydd bod goleuadau’r Nadolig yn cael eu cynnau.

Bydd y gwasanaethau canlynol yn cael eu dargyfeirio o 15:00 tan amser y bws diwethaf:

  • Bydd gwasanaeth 21 yn dilyn ei lwybr arferol hyd at gyffordd Pantmawr Rd/Northern Ave ac yna’n teithio ar hyd Northern Avenue, Manor Way a Heol y Gogledd cyn ailymuno â’i lwybr arferol yng Nghyfnewidfa Gabalfa.
  • Bydd gwasanaethau 23 a 24 yn dilyn eu llwybr arferol hyd at Gyfnewidfa Gabalfa, ac yna’n teithio ar hyd Manor Way, Tŷ'n-y-Parc Road ac Old Church Road i Penlline Road. Bydd arhosfan dros dro’n cael ei ddefnyddio ym mhen draw Old Church Road ym mhentref yr Eglwys Newydd.
  • Bydd gwasanaeth 25 yn dilyn ei lwybr arferol hyd at Penlline Road, ac yna’n teithio ar hyd Church Road, Heol Don, Station Road, Gabalfa Road a Gabalfa Avenue i Gomin yr Eglwys Newydd lle bydd yn ailymuno â’i lwybr arferol.
  • Dylech ddefnyddio’r arosfannau bysiau ar hyd llwybr y dargyfeiriad ac, ar gyfer gwasanaethau 23 a 24, yr arhosfan dros dro ym mhen draw Old Church Road ym mhentref yr Eglwys Newydd.
Yn ôl