Problemau teithio

Bydd prif ffordd yr arfordir rhwng Aberaeron ac Aberystwyth yn cael ei chau yn Aber-arth bob nos am 6 noson o 18 Tachwedd ymlaen rhwng 6pm a 6am.

 

Diweddariad:

Caniateir i fysiau deithio tan 9pm ar hyd y rhan o’r ffordd lle mae’r gwaith yn digwydd, er mwyn lleihau’r graddau y mae’r gwaith yn tarfu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd y ffordd ar gau i bob math o draffig ar ôl 9pm.

Dylech neilltuo digon o amser ar gyfer eich taith rhag ofn y bydd yna oedi.

Yn ôl