Problemau teithio

Bydd Cylchfan yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd ar gau dros dro ddydd Sul 24 Tachwedd o 9am tan 5pm.

Diben hynny yw hwyluso gwaith brys i roi wyneb newydd ar y ffordd.

Bydd goleuadau traffig dros dro ar waith drwy’r gylchfan rhwng Penlline Road a Park Road, sy’n golygu y bydd Tŷ’n-y-Pwll Road, Kelston Road a Velindre Road ar gau wrth eu cyffyrdd â’r gylchfan.

 

Bws Caerdydd

Bydd gwasanaethau 24 a 25 yn cael eu dargyfeirio rhwng Merthyr Road a Heol Don/Station Road ar hyd Church Road. Ni fydd yr arosfannau bysiau yn Penlline Road, Velindre Road a Heol Don yn cael eu gwasanaethu.

Bydd gwasanaethau 21 a 23 yn cael eu dargyfeirio rhwng The Philog a Pantmawr Road ar hyd Northern Avenue/Manor Way i’r ddau gyfeiriad. Ni fydd yr arosfannau bysiau yn The Philog, Comin yr Eglwys Newydd, Pentref yr Eglwys Newydd a phen draw gorllewinol Pantmawr Road yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau ar hyd Manor Way a Northern Avenue yn lle hynny.

 

Yn ôl