Problemau teithio

Drwy garedigrwydd Cyngor Dinas Casnewydd, bydd Newport Bus yn cynnig gwasanaeth Parcio a Theithio rhad ac am ddim bob dydd Sadwrn o 23 Tachwedd tan 21 Rhagfyr. Bydd y gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn gweithredu hyd at bob 10 munud rhwng 9:00 a 17:50 o feysydd parcio top a gwaelod y Ganolfan Ddinesig i mewn i ganol y ddinas.

P’un a fyddwch yn siopa yn Rhodfa’r Brodyr, Canolfan Ffordd y Brenin, Marchnad Casnewydd neu Commercial Street, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.

Cliciwch yma i weld amserlen y gwasanaeth.

Yn ôl