Problemau teithio

Arriva Cymru

O ddydd Llun 9 Rhagfyr 2019 ymlaen, bydd Adran Briffyrdd Cyngor Sir Wrecsam yn cau Edwards Avenue, Brymbo am 3 diwrnod tra bydd gwaith yn cael ei wneud i roi wyneb newydd ar y ffordd.

Bydd hynny’n effeithio ar wasanaethau 12/12A ac 14:

 

Llwybr 12 a 12A o Wrecsam i Frymbo

Bydd bysiau’n gweithredu yn ôl yr arfer i Green Road, Brymbo ac yna byddant yn cael eu dargyfeirio heibio i dafarn Y Tai, yn mynd yn syth ymlaen wrth y gylchfan i gyfeiriad Adeilad Hen Waith Dur Brymbo, yn cymryd yr ail droad i mewn i Stryd Fawr Newydd, Brymbo ac yn gorffen eu taith wrth dafarn y Miners Arms, Brymbo.

Bydd bysiau sy’n teithio o Frymbo i Wrecsam yn dechrau wrth dafarn y Miners Arms, Brymbo ac yn gweithredu yn ôl yr arfer.

 

Llwybr 14 o Wrecsam i Frymbo

Bydd bysiau o Wrecsam i Frymbo yn gweithredu yn ôl yr arfer hyd at Hen Waith Dur Brymbo, yna’n cymryd y troad cyntaf i mewn i Stryd Fawr Newydd, Brymbo ac yn gorffen eu taith wrth dafarn y Miners Arms, Brymbo.

Bydd bysiau sy’n teithio o Frymbo i Wrecsam yn dechrau wrth dafarn y Miners Arms, Brymbo ac yn teithio ar hyd Stryd Fawr Brymbo, yn troi i’r dde i mewn i Coed-y-Felin Road, yn teithio heibio i dafarn Y Tai, yn mynd yn syth ymlaen wrth y gylchfan i gyfeiriad Adeilad Hen Waith Dur Brymbo, yn cymryd y troad cyntaf i mewn i Phoenix Drive ac yna’n dilyn y llwybr arferol i Wrecsam.

Yn ôl